Cymrawd Bevan

Mae Samy yn Llawfeddyg Cyffredinol Ymgynghorol yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth. Gorffennodd ysgol feddygol yn yr Aifft yn 1989 a daeth yn Gymrawd i Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yng Nghaeredin ym 1999. Mae wedi cwblhau gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Dundee a dyfarnwyd MD iddo yn 2002, cyn dechrau ei hyfforddiant llawfeddygol uwch a chael CCT yn 2010. Yn ystod ei hyfforddiant roedd ganddo ddiddordeb bob amser mewn Archwilio Clinigol a'i effaith ar wella ansawdd y gofal a ddarperir i gleifion. Mae hyn yn cyd-fynd â'i ddiddordeb mewn addysg ac ymchwil feddygol.

Mae Samy wedi cymryd rhan mewn llawer o archwiliadau cenedlaethol ac wedi arwain llawer o archwiliadau lleol pan ddechreuodd weithio fel llawfeddyg ymgynghorol yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn 2012. Ar hyn o bryd ef yw Cadeirydd Pwyllgor Cymorth Archwilio Clinigol Ceredigion. Mae ganddo Dystysgrif mewn Addysg Feddygol o Brifysgol Caerdydd yn 2018 ac ar hyn o bryd mae’n Oruchwyliwr Clinigol ac Addysgol i lawer o hyfforddeion a myfyrwyr meddygol. Samy hefyd yw Arweinydd y Gyfadran ar gyfer Addysg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae wedi gweld effaith archwiliadau clinigol ar wella ansawdd gofal ac mae'n gwybod am y rhwystrau sy'n herio archwiliadau clinigol. Arweiniodd hyn ato i geisio dod o hyd i ateb i oresgyn y rhwystrau hyn y gellir eu hintegreiddio i waith dyddiol a darparu data cadarn a all lywio penderfyniadau. Ynghyd â defnyddio'r cymhwysiad hwn, bydd cyfleoedd hyfforddi ac addysgu i hyfforddeion llawfeddygol.

Mae Cymrodoriaeth Bevan Samy yn canolbwyntio ar ddatblygu cymhwysiad cyfrifiadurol integredig seiliedig ar waith ar gyfer archwilio'r rhan fwyaf o'r llawdriniaethau cyffredinol cyffredin gyda Cholecystectomi Laparosgopig fel prototeip.

Share