Ffeil testun fach wedi’i chreu gan eich porwr yw cwci, a chaiff ei storio ar yriant caled eich cyfrifiadur os ydych yn cytuno iddo. Mae dau brif fath: Cwci Sesiwn a Chwci Parhaus.
Defnyddir Cwcis Parhaus er mwyn i wefannau gofio gwybodaeth a fyddai fel arall yn cael ei cholli pan gaiff eich porwr ei gau (dyma sy’n digwydd gyda chwcis sesiwn).
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i’ch gwahanu chi a defnyddwyr eraill ein gwefan. Mae hyn yn ein cynorthwyo ni i roi profiad da i chi pan fyddwch yn pori drwy ein gwefan ac mae hefyd yn ein caniatáu ni i wella ein safle.
Defnyddiwn y cwcis parhaus canlynol:
Cwcis dadansoddi/perfformiad. Mae’r cwcis di-enw hyn yn ein caniatáu ni i gydnabod a chyfrif y nifer o ymwelwyr a gweld sut mae ymwelwyr yn symud o gwmpas ein gwefan wrth iddynt ei defnyddio. Mae hyn yn ein helpu ni i wella’r ffordd mae ein gwefan yn gweithio, er enghraifft, drwy sicrhau bod defnyddwyr yn dod o hyd yn rhwydd i’r hyn maent yn chwilio amdano.
Gweler y tabl isod am ragor o wybodaeth ynghylch y cwcis unigol yr ydym yn eu defnyddio ac at ba ddibenion yr ydym yn eu defnyddio.
Cwci: PHPSESSID
Enw: Sesiwn ar y wefan
Diben: Defnyddir y cwci hwn i bennu a yw defnyddiwr wedi mewngofnodi i’r safle ai peidio. Nid yw’n cynnwys gwybodaeth bersonol a chaiff ei adfer yn awtomatig cyn gynted ag y caiff y porwr ei gau.
Cwci: __utma, __utmz, _ga
Enw: Google Analytics
Diben: Cynhyrchir y cwcis hyn gan Google Analytics at ddibenion dadansoddi ein hystadegau ymwelwyr â’r wefan (e.e. sawl ymwelydd yr ydym wedi’u cael, a pha dudalennau sydd fwyaf poblogaidd). Defnyddir y cwcis er mwyn asesu perfformiad y safle yn unig ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol. Gellir eu dileu ar unrhyw bwynt heb effeithio ar eich profiad o’r safle.
Bydd eich data yn cael ei gadw’n ddiogel gan Comisiwn Bevan a Phrifysgol Abertawe a chaiff ei ddefnyddio at y dibenion a ddisgrifir uchod yn unig, yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Byddwn yn defnyddio’ch data personol pan mae’r gyfraith yn ein caniatáu ni i wneud hynny yn unig. Yn gyffredinol, rydym yn dibynnu ar eich caniatâd i brosesu’ch data, fel y gallwn anfon gwybodaeth atoch ynghylch newyddion, digwyddiadau a chyrsiau. Caiff eich gwybodaeth ei phrosesu gan ddarparwr trydydd parti – Mailchimp. Mae manylion sut ydym yn diogelu’ch gwybodaeth i’w cael yn ein Hysbysiad Preifatrwydd Data.
Eglura’r datganiad hwn sut fydd Comisiwn Bevan, sydd wedi’i gynnal ym Mhrifysgol Abertawe, yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol, ac yn ei defnyddio, yn ystod ein perthynas ac ar ôl i’n perthynas ddod i ben.
Bydd casglu data personol gennych chi yn ein galluogi ni i gael dealltwriaeth well o’r hyn y mae gennych ddiddordeb ynddo a bydd yn ein caniatáu ni i gadw mewn cysylltiad â chi er mwyn rhoi’r diweddaraf i chi ynghylch ein gweithgareddau, ein cyfleoedd a’n datblygiadau. Rydym yn ymrwymedig i ddiogelu’ch gwybodaeth a bod yn dryloyw ynghylch y wybodaeth yr ydym yn ei chadw. Serch hynny, os hoffech ddarllen mwy ynghylch ymrwymiad y Brifysgol i ddiogelu’ch data personol a bod yn dryloyw yn gyffredinol, ewch i dudalennau gwe Diogelu Data y Brifysgol.
Prifysgol Abertawe yw’r rheolydd data ac mae’n ymrwymedig i ddiogelu hawliau cleientiaid a phartneriaid yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data newydd. Mae gan Brifysgol Abertawe Swyddog Diogelu Data a gallwch gysylltu â’r swyddog drwy e-bost.
Rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol gan unigolion a sefydliadau sy’n dymuno cael cylchlythyrau rheolaidd a negeseuon e-bost achlysurol gan Comisiwn Bevan:
Byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth er mwyn rhoi’r diweddaraf i chi o ran newyddion, digwyddiadau, adroddiadau ac unrhyw ddatblygiadau yr ydym ni’n credu a fyddai’n berthnasol i chi neu eich sefydliad. Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu ag adrannau eraill yn y Brifysgol.
Mae cyfraith diogelu data yn disgrifio’r sylfaen gyfreithiol dros brosesu eich data gennym ni yn un sy’n seiliedig ar ganiatâd neu at ddibenion buddion* cyfreithiol y mae’r Brifysgol neu drydydd parti yn eu holrhain, ac eithrio pan gaiff buddion o’r fath eu diystyru gan fuddion neu hawliau a rhyddid sylfaenol y gwrthrych data sy’n gofyn diogelu data personol.
*(Mae cronicliad 47 y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn cydnabod y gellir ystyried prosesu data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol er buddiant cyfreithiol. Bydd prosesu o’r fath yn cael ei gynnal ar ôl gwneud asesiad o fuddion cyfreithiol yn unig er mwyn sicrhau bod eich data personol yn cael ei ddefnyddio’n briodol ac mewn ffyrdd y byddech yn eu disgwyl yn rhesymol ac sy’n cael yr effaith leiaf bosibl ar breifatrwydd, neu bryd bynnag mae cyfiawnhad cadarn dros brosesu).
Bydd gwybodaeth yr ydych yn ei rhoi i ni yn cael ei chadw gan Brifysgol Abertawe.
Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei storio ar ein systemau electronig a’n cronfeydd data diogel y gall cydweithwyr yn y Brifysgol eu gweld cyn belled â bod ganddynt ganiatâd priodol. Caiff gwybodaeth bersonol ei diogelu gan y Brifysgol ac ni chaiff ei datgelu i sefydliadau trydydd parti heb ganiatâd pendant.
Rhyddheir y wybodaeth i aelodau o staff sydd angen mynediad dan amgylchiadau prin ac am y rhesymau a nodwyd uchod.
Er enghraifft:
Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni gadw’ch gwybodaeth yn ddiogel. Mae hyn yn golygu y bydd eich cyfrinachedd yn cael ei barchu, ac y defnyddir yr holl fesurau priodol er mwyn atal mynediad a datgeliad anawdurdodedig.
Dim ond aelodau o staff sydd angen gweld rhannau perthnasol o’ch gwybodaeth, neu’ch gwybodaeth i gyd, fydd yn cael eu hawdurdodi i wneud hynny. Bydd gwybodaeth yn eich cylch chi ar ffurf electronig wedi’i diogelu â chyfrinair a chyfyngiadau diogelwch eraill, wedi’i chadw ar rwydweithiau diogel y brifysgol a bydd ffeiliau papur yn cael eu storio mewn ardaloedd diogel gyda mynediad yn cael ei reoli.
Bydd y Brifysgol yn defnyddio systemau rheoli cynnwys trydydd parti sy’n defnyddio gwasanaethau cwmwl i brosesu data personol er mwyn anfon deunydd marchnata electronig uniongyrchol yn unol â chytundebau prosesu data yr Undeb Ewropeaidd (UE)/Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).
Mae’n bosibl y bydd adegau pan all eich data personol fod ar weinyddion y tu hwnt i’r UE. Pan fydd y prosesu yn digwydd y tu hwnt i’r UE, bydd Prifysgol Abertawe yn sicrhau bod unrhyw drosglwyddiadau yn gyfreithiol ac yn gyfiawn yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Bydd eich data personol yn cael ei gadw nes i chi ddewis ddatdanysgrifio o gyfathrebiadau Comisiwn Bevan neu pan ydym yn adnabod yn ystod ymarferion glanhau data blynyddol nad ydych yn ymgysylltu â ni bellach, e.e. os ydym yn canfod drwy ddadansoddi negeseuon e-bost nad ydych yn agor y cyfathrebiadau hyn. Bydd delweddau a ffilmiau yn cael eu hadolygu yn gyson.
Rhowch wybod i dîm Comisiwn Bevan drwy e-bost (bevan-commission@swansea.ac.uk) am unrhyw newid i’ch enw, cyfeiriad, manylion cyswllt cyn gynted â phosibl er mwyn i ni addasu ein cofnodion yn unol â hynny.
Petaech yn derbyn unrhyw negeseuon di-groeso, byddwch yn gallu datdanysgrifio ar unrhyw bryd a hynny drwy unrhyw e-bost yr ydych wedi’i gael gennym.
Os ydych wedi rhoi caniatâd i Brifysgol Abertawe brosesu unrhyw ddata sy’n perthyn i chi, yna mae gennych yr hawl i dynnu’r caniatâd hwnnw yn ôl a gofyn am ddileu eich data pan nad ydych yn dymuno derbyn gwybodaeth farchnata bellach.
Yn unol â’r ddeddfwriaeth, byddwn bob amser yn rhoi’r cyfle i chi optio allan o gyfathrebu perthnasol yn y dyfodol gan Comisiwn Bevan.
Mae gennych yr hawl i weld eich gwybodaeth bersonol, i wrthod eich gwybodaeth bersonol rhag cael ei phrosesu, cywiro, dileu , cyfyngu a chludo’ch gwybodaeth bersonol (noder bod hyn yn annhebygol o effeithio ar ein gallu i’ch cefnogi chi yn y ffordd fwyaf effeithiol, os o gwbl).
Ewch i dudalennau gwe Diogelu Data Prifysgol Abertawe am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’ch hawliau.
Dylid cyflwyno unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau yn ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data y Brifysgol:
Bev Buckley
Swyddog Cydymffurfio’r Brifysgol (Rhyddid Gwybodaeth/Diogelu Data),
Swyddfa’r Is-ganghellor,
Prifysgol Abertawe,
Parc Singleton,
Abertawe,
SA2 8PP
dataprotection@swansea.ac.uk
Os nad ydych yn fodlon gyda’r modd y proseswyd eich gwybodaeth bersonol, yn y lle cyntaf dylech gysylltu â Swyddog Diogelu Data y Brifysgol drwy’r manylion cyswllt uchod.
Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon, yna mae gennych yr hawl i wneud cais am benderfyniad yn uniongyrchol gan y Comisiynydd Gwybodaeth.
Dyma fanylion cyswllt y Comisiynydd Gwybodaeth:
Information Commissioner’s Office, Wycliffe House,
Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF www.ico.org.uk
Bydd unrhyw newidiadau a wnawn i’n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu rhannu ar y dudalen hon a chewch wybod dros e-bost pan mae hynny’n briodol.