Skip i'r prif gynnwys

Yr Athro Kamila Hawthorne MBE MD FRCGP FRCP FAcadMEd FLSW DRCOG DCH.

Cadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.

Meddyg Teulu, Aberpennar.

Mae Kamila yn feddyg teulu ers 34 mlynedd ac yn addysgwr meddygol academaidd a gwleidydd meddygol. Mae ei diddordebau ymchwil a chyhoeddiadau yn cynnwys mynediad at wasanaethau iechyd ar gyfer grwpiau Du a Lleiafrifoedd Ethnig a grwpiau difreintiedig eraill yn y DU (gyda chymhwysiad arbennig i Ddiabetes Math 2), datblygu cyfrifoldeb cymdeithasol mewn gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a chydraddoldeb ac amrywiaeth mewn asesiadau addysg feddygol . Yn gyn Bennaeth y Rhaglen Meddygaeth Mynediad i Raddedigion ym Mhrifysgol Abertawe (2018-2022), mae bellach yn Gadeirydd Cyngor yr RCGP. Mae ei phractis clinigol mewn hen dref lofaol ddifreintiedig yng Nghymoedd Cymru.

Mae Kamila hefyd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr y Kings Fund.

Dyfarnwyd MBE i Kamila yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines 2017, am wasanaethau i bractis cyffredinol.