Galwad wedi dod i ben: Rhaglen Arloesi Gofal wedi’i Gynllunio

Cefndir a chyd-destun

At ddibenion y Rhaglen Arloesi Gofal wedi’i Gynllunio, caiff y term gofal wedi’i gynllunio ei ddiffinio gan Lywodraeth Cymru (2021) fel y canlynol: “Unrhyw driniaeth nad yw’n digwydd ar frys ac sydd fel arfer yn ymwneud ag apwyntiad wedi’i drefnu ymlaen llaw.”

Mae pwysau yn sgil pandemig Covid-19 wedi ychwanegu at yr heriau sydd eisoes yn wynebu’r ddarpariaeth o wasanaethau gofal wedi’i gynllunio ledled Cymru, sy’n cynnwys rhestr ôl-groniad gynyddol am driniaeth ac amseroedd aros hirach i gleifion. Mae hyn yn rhoi straen sylweddol ar wasanaethau iechyd a gofal ac yn debygol o gael effeithiau niweidiol ar iechyd a llesiant y boblogaeth yn y tymor hir, os bydd y problemau yn parhau i fod heb eu datrys.

Pwysleisia hyn yr angen i ail-gydbwyso capasiti a galw am wasanaethau dewisol ar draws GIG Cymru, gan awgrymu gofyniad brys am newid trawsffurfiol sylweddol yn y gymuned ac ar draws systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn sicrhau ansawdd a chynaliadwyedd gwasanaethau gofal wedi’i gynllunio yn y dyfodol ac yn cefnogi eu gallu i wneud effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant pobl yng Nghymru.

Mae’r angen brys hwn am drawsnewid ar draws sbectrwm eang gofal wedi’i gynllunio a gwasanaethau cysylltiedig eraill yng Nghymru yn cael ei gydnabod yn y polisi cenedlaethol ac yn agwedd ganolog ar Raglen Gofal wedi’i Gynllunio Llywodraeth Cymru a Strategaeth Cleifion Allanol GIG Cymru. Mae’r angen am newid cynaliadwy, cydweithredol a thrawsffurfiol ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn cael ei gydnabod yn uchelgeisiau ‘Cymru Iachach’, sef cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd datblygu ffyrdd arloesol a chynaliadwy o weithio o fewn gwasanaethau gofal cymunedol, sylfaenol, eilaidd a thrydyddol, ac ar eu traws, yn ogystal â gofal cymdeithasol, llywodraeth leol a’r trydydd sector, yn chwarae rôl sylweddol yn cefnogi uchelgeisiau’r Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal wedi’i Gynllunio, Strategaeth Cleifion Allanol GIG Cymru a Strategaeth Cymru Iachach Llywodraeth Cymru.

 

Cefndir y rhaglen

Gan ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd a gyflwynir, nod y Rhaglen Arloesi Gofal wedi’i Gynllunio, a ddatblygwyd gan y Comisiwn Bevan mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ehangach, yw cefnogi trawsnewid brys gwasanaethau gofal wedi’i gynllunio ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Bydd y Rhaglen Arloesi Gofal wedi’i Gynllunio yn ariannu ac yn cefnogi prosiectau arloesol ar draws sbectrwm iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys y sector gwirfoddol a chymunedol) yng Nghymru i ddatblygu, defnyddio a phrofi ffyrdd newydd o weithio, sydd (a/neu):

  • Yn meddu ar y potensial i drawsnewid neu effeithio’n gadarnhaol ar lwybrau gofal wedi’i gynllunio yng Nghymru;
  • Yn anelu at leihau neu leddfu’r galw ar wasanaethau gofal wedi’i gynllunio yng Nghymru.

Gall enghreifftiau o brosiectau posibl ar gyfer y Prosiect Arloesi Gofal wedi’i Gynllunio:

  • Helpu i leihau’r nifer o gleifion sy’n aros yn hirach flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn gofal eilaidd.
  • Sicrhau y gall y rheini sydd fwyaf mewn angen yn cael y gwasanaethau gofal wedi’i gynllunio sydd eu hangen arnynt yn gyntaf, megis pobl hŷn mewn cartrefi gofal sydd ag anghenion iechyd a gofal cymhleth.
  • Annog clinigwyr i roi’r gorau i rai o’r gweithdrefnau nad ydynt o fudd i gleifion, gan ryddhau eu hamser i ganolbwyntio ar arferion cyson, yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Cyflawni iechyd a llesiant ymhlith y cyhoedd ac arbenigwyr fel partneriaid cyfartal drwy greu ar y cyd.
  • Lleihau’r galw am wasanaethau gofal wedi’i gynllunio mewn lleoliadau gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal cymdeithasol.
  • Cefnogi i drawsnewid llwybrau cleifion a’r modelau triniaeth sydd ar gael er mwyn gwella ansawdd ac effeithiolrwydd gofal cleifion.

Cymorth y rhaglen

Ochr yn ochr â’r cyfle i wneud cais am gyllid prosiect, bydd y rhaglen yn darparu ystod o gymorth ac anoddau i ymgeiswyr llwyddiannus i ddatblygu eu prosiectau arloesi. Bydd y rhaglen hefyd yn rhoi mynediad at becyn cynhwysfawr o wybodaeth a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau, drwy gyfres o ddigwyddiadau rhwydweithio a gweithdai, yn seiliedig ar fodel rhaglen Esiamplwyr Bevan llwyddiannus.

Yn ogystal, bydd cyfranogwyr yn cael eu neilltuo â hyfforddwr neu fentor, a fydd yn eu cefnogi drwy eu taith ar y Rhaglen Arloesi Gofal wedi’i Gynllunio.