Rhaglen Esiamplwyr Bevan

Changemakers transforming health and care from within

The Bevan Commission's Exemplar Programme supports health and care professionals to take their great prudent healthcare ideas and translate them into practice. Our 12-month programme provides training and mentorship to inform thinking and develop skills so Exemplars can transform health and care services from within, having positive impacts on patient care, lived experiences, health outcomes and on service efficiency.

Beth yw Esiamplwr Bevan?

Mae Esiamplwyr Bevan yn staff iechyd a gofal ledled Cymru sydd wedi’u cefnogi gan y Comisiwn Bevan i ddatblygu a rhoi eu syniadau dan brawf dros gyfnod o 12 mis. Mae’r rhaglen Esiamplwyr Bevan yn agored i unrhyw un sy’n gweithio yn GIG Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Llwyodraeth Cymru neu o fewn y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Cefnogir rhaglen Esiamplwyr Bevan gan Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG ledled Cymru.

Dr Oliver Blocker
quotation icon

Rydym wedi trawsnewid profiad cleifion a’r modelau gofal yr ydym yn eu darparu yn yr ysbyty.

Dr Oliver Blocker

Llawfeddyg Orthopaedig, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Carfan 7: Gwneud pethau’n wahanol ar gyfer adferiad cynaliadwy a darbodus

Ar gyfer 2021/22, mae Carfan 7 yr Esiamplwyr yn archwilio syniadau a phrosiectau sy’n ymwneud â:

  • Defnyddio datrysiadau digidol a thechnolegol i wneud pethau’n wahanol.
  • Gweithio mewn ffyrdd gwahanol a chyda phobl wahanol.
  • Dull gwahanol i leihau gwastraff a chyflawni iechyd a gofal cynaliadwy heb achosi niwed.
  • Lleihau biwrocratiaeth, grymuso pobl a rheoli risgiau cyffredin.
  • Datblygu gweithredoedd arloesol mewn perthynas â blaenoriaethau cyffredin, megis cysylltu â grwpiau anodd eu cyrraedd.
  • Cydweithio i wneud y mwyaf o’r holl sgiliau a’r adnoddau a gwneud beth sydd ei angen yn unig.
  • Blaenoriaethau yn gyson â sefydliadau lleol a gwaith ar y cyd.

Arddangosfa Carfan 6

Ar ôl blwyddyn heriol, cyflwynodd ein carfan ddiweddaraf o Esiamplwyr Bevan eu prosiectau arloesol mewn arddangosfa gan Comisiwn Bevan. O fynd i’r afael ag ôl-groniad Covid-19 i hyrwyddo’r defnydd o Ffisiotherapi dros fideo i Blant, mae ein Hesiamplwyr Bevan ‘llwybr carlam’ wedi arddangos gwelliannau ac effaith ar draws ystod o ddisgyblaethau, yn wyneb Covid-19.

Gwerthusiadau o'r Rhaglen

Mae’r Athro Nick Rich, Prifysgol Abertawe, yn gwerthuso pob carfan o’r Rhaglen Esiamplwyr.

Arweinwyr Sefydliadol:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – Tom James
  • (Thomas.James3@wales.nhs.uk)
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Dr Lynne Grundy (Lynne.Grundy@wales.nhs.uk)
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Dr Tom Powell (Tom.Powell2@wales.nhs.uk)
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – Dr Mark Briggs (Mark.Briggs@wales.nhs.uk)
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Y Tîm Ymchwil ac Arloesi – Elin Brock (Elin.Brock@wales.nhs.uk), Dr Rachel Gemine (Rachel.E.Gemine@wales.nhs.uk), Richard Davies (Richard.m.davies@wales.nhs.uk)
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – Christine Morrell (Christine.Morrell@wales.nhs.uk)
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys – Howard Cooper (Howard.Cooper@wales.nhs.uk)
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru – Mark Griffiths (Mark.Griffiths5@wales.nhs.uk) neu Rhiannon Beaumont Wood (Rhiannon.Beaumont-Wood@wales.nhs.uk)
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru – Grayham Mclean (Grayham.Mclean@wales.nhs.uk)
  • Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre – Libby Batt (Libby.batt@wales.nhs.uk)
  • Gofal Cymdeithasol Cymru – Sue Evans (Sue.Evans@SocialCare.Wales)