PACE Podiatreg: Gofal Hygyrch i Bawb
Cefndir
Mae cleifion sy’n cael eu cyfeirio at adran Bodiatreg Caerdydd a’r Fro yn cael cynnig asesiad a thriniaeth yn seiliedig ar anghenion iechyd traed a risg feddygol. Caiff oddeutu 700 o gleifion eu rhyddhau yn fisol oherwydd nad ydynt yn bodloni Canllawiau Cymru Gyfan.
Yn aml, nid oes gan gleifion sy’n cael eu rhyddhau unrhyw ddewis fforddiadwy arall ond aros i’w cyflwr waethygu. Mae hyn yn cyflwyno problemau o ran anghydraddoldeb iechyd. Er mwyn darparu’r gofal priodol ar yr amser cywir, mae’n hanfodol bod y staff cywir ar gael. Bydd y prosiect hwn yn cynnig y cyfle hwn a bydd staff y GIG yn ffurfio’r gweithlu.
Nodau’r Prosiect
Mae menter gymdeithasol wedi’i chynllunio i ddarparu gofal traed rheolaidd a syml yn rhad i’r garfan hon o gleifion wedi’u rhyddhau. Rhwyd ddiogelwch yw hon i ddarparu llwybr cyflym yn ôl i ofal y GIG ar gyfer achosion o iechyd traed yn dirywio. Bydd mwy o gleifion bregus sydd â sawl cyflwr iechyd yn elwa. Bydd cyswllt â’r Meddyg Teulu yn lleihau oherwydd na fydd angen atgyfeirio o’r newydd.
Bydd darpariaeth gwasanaeth rhad ond dan ofal y GIG yn sicrhau bod cleifion yn cael gofal ataliol ac yn cynnal gostyngiad o ran datblygu anghenion iechyd traed mwy cymhleth. Bydd gwelliant cysylltiedig yn iechyd y boblogaeth ac yn cyflawni canlyniadau sy’n bwysig i bobl.
Bydd staff y GIG yn cefnogi’r fenter hon. Dylid gweld gwelliant yn iechyd a llesiant oherwydd oriau gwaith hyblyg. Bydd y cyhoedd, cleifion ac arbenigwyr yn gweithio fel partneriaid drwy greu ar y cyd yn y Fenter Gymdeithasol.
Bydd PACE yn lleihau amrywiaeth amhriodol mewn gofal iechyd gan ddefnyddio modelau gofal iechyd datblygiadol i adnabod ymyraethau sydd â’r gwerth technegol a dyrannol mwyaf a’r gwerth mwyaf i gleifion. Disgwylir i gleifion fod yn fwy ymwybodol o’u statws iechyd traed.
Heriau
- Datblygiad araf oherwydd newidiadau ar y Bwrdd Gweithredol. Cefnogwyd y cais hwn gan Gynllunio Strategol BIP Caerdydd a’r Fro a gefnogodd gyda’r gwaith papur manwl
- Cyfnod amddiffyn gostyngedig. Prinder staff oherwydd eu bod wedi’u hanfon i feysydd eraill ac oherwydd salwch.
- Agweddau diwylliannol/gwleidyddol at ofal am ddim gan wasanaeth y GIG. Parhau i ddarparu triniaethau â blaenoriaethau. Ysgogi cleifion risg isel i ddod o hyd i opsiynau eraill.
- Pryderon gan randdeiliaid, e.e. CHC. Mae effeithiau Covid ar flaenoriaethau gwasanaeth wedi arwain at ofynion gwahanol ar y gwasanaeth.
- Amlygiad yn y cyfryngau. Ceisiwyd osgoi hyn i ddechrau oherwydd prosiect dadleuol posibl.
- Lleoliad cywir. Yn aros am ganiatâd i ddefnyddio safle Podiatreg sefydledig y GIG
Prif Ddeilliannau
Profiad cleifion: Cleifion yn disgwyl i ymarferwyr ddarparu gofal rhagorol a bydd hyn yn cael ei gyflawni gan ddefnyddio staff Podiatreg o safon uchaf y GIG. Bydd holiaduron adborth yn cael eu dosbarthu i gleifion bob 6 mis am flwyddyn. Bydd hyn yn cynnig syniadau a chyfle i wella.
Deilliant iechyd: Bydd darparu’r gofal cywir i’r cleifion cywir ar yr adeg gywir gan ddefnyddio’r cyfuniad cywir o sgiliau yn uchafu iechyd y gymuned. Bydd anghenion llai cymhleth yn cael eu bodloni gan PACE a bydd anghydraddoldeb iechyd yn lleihau. Hwn fydd y cynllun cyntaf o’i fath i fynd i’r afael ag anghenion cleifion sydd wedi’u rhyddhau yng Nghymru.
Mesuriadau: Mae’r costau wedi’u tybio yn seiliedig ar 700 o gleifion yn cael eu rhyddhau’n fisol. Mae hyn yn cyd-fynd â phegwn mwyaf fforddiadwy’r farchnad. Disgwylir y byddai 1680 o gleifion yn gwneud cais am 4 apwyntiad bob blwyddyn. Petai 20% o’r cleifion hyn yn mynychu PACE, byddai’r gwasanaeth yn ennill £134,400.
Effeithiolrwydd adnoddau: Bydd Staff y GIG yn cael cyfle i ddarparu cefnogaeth i’r prosiect. Disgwylir y bydd yn defnyddio cyfleusterau presennol y tu hwnt i’r oriau arferol er mwyn lleihau costau sefydlu. Gall cyswllt ag Age Connect gynnig cyfleoedd ar gyfer lleoliadau sy’n agosach at gartref claf. Bydd llesiant staff yn gwella drwy wella hyblygrwydd yr wythnos waith.
Camau Nesaf
- Parhau i weithio â thîm Gweithredol Caerdydd a’r Fro
- Cynnal cyfraniad gan rhanddeiliaid
- Sefydlu lleoliad
- Sefydlu cysylltiad ag Age Connect a/neu Brifysgol Metropolitan Caerdydd
- Sefydlu cyfraniad gan staff
- Sicrhau bod unrhyw elw yn cael ei fwydo’n ôl i Bodiatreg
- Cynnal egwyddorion y model Menter Gymdeithasol
- Ymchwilio i nawdd gan y diwydiant
- Masnachfreintio’r model i Ymddiriedolaethau eraill y GIG ymchwilio i nawdd gan y diwydiant
- Datblygu gwasanaeth i gynnwys agweddau eraill ar driniaeth
- Defnyddio adborth i ddatblygu a gwella PACE er budd y claf
Ein Profiad o Esiamplwyr
Cyfle gwych i rwydweithio gydag arbenigwyr eraill yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Arddangosfa Esiamplwyr Bevan 2021
Unigolion Cyswllt
Adran Bodiatreg Caerdydd a’r Fro: https://cavuhb.nhs.wales/our-services/podiatry/