Skip i'r prif gynnwys

Sujatha Thaladi

The Mentor Ring a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Prosiect blwyddyn o hyd a fydd yn darparu tair sesiwn 'ystafell sgwrsio' ar-lein gydag o leiaf dri arbenigwr gofal iechyd i gyflwyno gwybodaeth, hwyluso trafodaeth ac ateb cwestiynau ar bwnc a ddewiswyd gan y gymuned ei hun.

Rydym wedi cynnal sesiynau fel hyn yn y gymuned cyn canolbwyntio ar COVID-19 a’r wybodaeth anghywir ynghylch protocol amddiffyn a brechlynnau. Mae'r rhain wedi bod yn llwyddiannus iawn ar draws y gymuned.

Rydym hefyd wedi cynnal sesiynau ar iechyd meddwl a diabetes a byddem wrth ein bodd yn gallu ymestyn hyn ymhellach gan gwmpasu pynciau iechyd y mae'r gymuned ei hun yn eu hystyried yn bwysig.

Nodau ac Amcanion y Prosiect:

Nod 'Hyrwyddo cymuned iach' yw mynd i'r afael â'r wybodaeth anghywir y mae'r gymuned wedi'i chael ar nifer o faterion iechyd. Mae llawer o aelodau'r gymuned yn derbyn eu gwybodaeth am ofal iechyd ar lafar neu o sawl ffynhonnell sy'n gwrthdaro.

  • Ein nod yw mynd i'r afael â'r toreth o wybodaeth anghywir yn y gymuned trwy ddefnyddio arbenigwyr meddygol i ddarparu sesiynau addysgol a gwybodaeth. Bydd y sesiynau hyn yn grymuso aelodau'r gymuned i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd.
  • Ein nod yw mynd i'r afael â'r ymlyniad emosiynol sydd gan lawer o aelodau'r gymuned â'r camsyniadau hyn.
  • Cyflwyno'r sesiynau hyn ar-lein er mwyn cyrraedd y nifer uchaf o bobl agored i niwed a'u gwneud mor hygyrch â phosibl.
  • Darparu cyfleoedd i'r gymuned gyfleu pa gyngor gofal iechyd y maent yn teimlo sydd ei angen arnynt ac yna teilwra'r sesiynau i ateb y galw hwn.
  • Darparu cyfleoedd ar gyfer trafodaeth a gofyn cwestiynau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
  • Darparu gweithdai a sesiynau dilynol 1-1.

Canlyniadau'r Prosiect:

Er mai ein cynnig gwreiddiol oedd cynnal 3 sesiwn wybodaeth, gwelsom fod cynnydd yn y diddordeb yn y gymuned i gael mwy o sesiynau.

Arweiniodd hyn at gynnydd yn nifer y sesiynau cymorth cymheiriaid.

Roedd llawer o aelodau'n teimlo'n fwy gwybodus wrth i'r wybodaeth ddod gan arbenigwyr iechyd a'u bod yn gallu cyfeirio'n ôl.

Effaith y Prosiect: 

  • Gwelodd cyfanswm o 170 o bobl sesiynau ar-lein.
    Roedd 23 eisiau sesiynau wyneb yn wyneb (gan gynnwys, yn bwysig, y rhai nad oeddent
    gallu cyfathrebu yn Saesneg).
    Mwy o ymwybyddiaeth o faterion Iechyd a Lles a mynd at arbenigwyr iechyd priodol am eu pryderon.

adborth gan Gyfranogwyr cyn ac ar ôl y sesiwn

Gweld poster y prosiect a sleidiau o Arddangosfa Enghreifftiol Carfan 7