Rheolwr Prosiect Rhaglen Arloesedd Gofal wedi'i Gynllunio
Ymunodd Sarah â Chomisiwn Bevan fel Rheolwr Prosiect Arloesedd Gofal wedi’i Gynllunio. Mae Sarah yn parhau i ddarparu cymorth rheoli prosiect i nifer o raglenni gwaith. Mae Sarah yn ffisiotherapydd cofrestredig ac mae wedi gweithio i'r GIG, system iechyd a gofal Seland Newydd ac iechyd corfforaethol mewn rolau clinigol a rheoli. Cyn ymuno â Chomisiwn Bevan yn 2022, bu Sarah yn gweithio fel Rheolwr Gweithrediadau Clinigol mewn gwasanaethau rheoli achosion. Mae gan Sarah Radd Meistr mewn Ymchwil Iechyd ac mae ganddi gymwysterau Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus.