Skip i'r prif gynnwys

Marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II

Mae Comisiwn Bevan wedi’i dristu’n fawr gan y newyddion bod Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II wedi marw. Mae Ei Mawrhydi y Frenhines wedi cysegru ei bywyd i wasanaethu ein gwlad, gan ein harwain a’n cynrychioli ni i gyd gyda balchder ac urddas.

Ym mis Gorffennaf, dyfarnodd y Frenhines Groes Siôr i GIG Cymru, ar ran yr holl staff, i gydnabod eu dewrder, eu tosturi a’u hymroddiad, yn enwedig yn ystod pandemig Covid-19. Mae ein meddyliau gyda’r Teulu Brenhinol ar yr adeg anodd hon ac rydym yn croesawu ac yn cefnogi ein Brenin newydd, Siarl III.