Skip i'r prif gynnwys
Prosiect Carfan 1 Enghreifftiol BevanAstudiaeth Achos Peidiwn â Gwastraff

Defnyddio Seicoleg Iechyd i Wella Ymlyniad â Meddyginiaethau

Martin Davies (CTUHB), Emma Williams (CTUHB) ac Anne Hinchliffe (PHW)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

'Gall cynyddu effeithiolrwydd ymyriadau ymlyniad gael llawer mwy o effaith ar iechyd y boblogaeth nag unrhyw welliant mewn triniaethau meddygol penodol'.

Yn 2005, fel rhan o fframwaith cytundebol newydd ar gyfer fferylliaeth gymunedol, cyflwynwyd y gwasanaeth Adolygu'r Defnydd o Feddyginiaethau (MUR). Mae'r gwasanaeth yn cynnwys fferyllydd achrededig yn cynnal adolygiad strwythuredig sy'n canolbwyntio ar ymlyniad gyda chlaf a gall pob fferyllfa gynnig hyd at 400 o Adolygiadau o'r Defnydd o Feddyginiaethau y flwyddyn. Fel arfer mae'r fferyllydd cymunedol yn cychwyn MUR trwy ofyn i glaf a hoffai un; mae ymchwil yn awgrymu bod y mwyafrif o gleifion yn credu bod cael MUR yn fwy o fudd i'r fferyllydd na nhw eu hunain.

Wrth ddatblygu'r prosiect hwn, roeddem o'r farn pe bai claf yn gofyn am yr Adolygiad o'r Defnydd o Feddyginiaethau ei hun y byddai'n fwy tebygol o elwa ohono. Yn ddamcaniaethol, gall cleifion atgyfeirio eu hunain ar gyfer MUR ond yn ymarferol ychydig iawn o MURs sy’n cael eu cychwyn gan gleifion. Gan gymhwyso mewnwelediadau ymddygiadol i ddyluniad yr ymyriadau, rydym yn bwriadu rhoi tri dull ar brawf sy’n annog cleifion i atgyfeirio eu hunain ar gyfer MUR (poster, taflen, a gwahoddiad personol).

Bydd yr ymyriadau yn cael eu treialu mewn fferyllfeydd yn Rhondda Cynon Taf rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2016 a bydd effaith y tri ymyriad yn cael eu dadansoddi. Mae’r prosiect wedi’i gyflwyno i Grŵp Ymchwil a Datblygu Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nid oes angen cymeradwyaeth foesegol.

Mae'r Prosiect hwn yn Cefnogi Gofal Iechyd Darbodus:

Mae rhagnodi meddyginiaeth yn un o ymyriadau mwyaf cyffredin yn GIG Cymru gyda thua £600 miliwn y flwyddyn yn cael ei wario ar feddyginiaethau ar bresgripsiwn mewn gofal sylfaenol. Fodd bynnag, amcangyfrifir nad yw 30-50 y cant o feddyginiaethau ar gyfer cyflyrau hirdymor yn cael eu cymryd fel y'u rhagnodir. Mae ymlyniad gwael â meddyginiaethau nid yn unig yn arwain at wastraff meddyginiaethau ond hefyd yn arwain at golli buddion iechyd. Byddai lleihau diffyg ymlyniad yn arwain at ddefnydd mwy effeithiol o adnoddau gofal iechyd yn ogystal â bod o fudd i gleifion.

Gall peidio â chadw at feddyginiaeth fod yn fwriadol neu'n anfwriadol. Mae rhai cleifion yn methu â chymryd eu moddion ee methu darllen cyfarwyddiadau, methu â defnyddio anadlydd yn effeithiol; nid yw eraill eisiau cymryd eu meddyginiaethau, yn aml oherwydd bod ganddynt bryderon yn eu cylch neu nad ydynt yn llwyr werthfawrogi eu hangen am y feddyginiaeth. Er mwyn nodi a mynd i'r afael â diffyg ymlyniad, rhaid i glinigwyr gynnwys eu cleifion yn effeithiol mewn ymgynghoriadau, gan fabwysiadu'r egwyddor o gydgynhyrchu.

Manteision a Ragwelir:

Rydym yn rhagweld y bydd boddhad cleifion ag Adolygiadau o'r Defnydd o Feddyginiaethau yn cynyddu wrth i fferyllwyr a chleifion gydweithio i nodi a goresgyn y problemau hynny sy'n ymwneud â meddyginiaethau sy'n arwain at y claf yn peidio â chymryd ei feddyginiaeth. Mae canlyniadau posibl eraill yn cynnwys llai o wastraff meddyginiaethau trwy leihau meddyginiaethau nad ydynt yn cael eu cymryd a mwy o fanteision iechyd trwy wneud y mwyaf o effaith y feddyginiaeth a ragnodwyd, er nad yw'r prosiect wedi'i gynllunio i fesur y canlyniadau hyn.

Bydd y prosiect yn arwain at ddylunio a chyhoeddi posteri a thaflenni. Os dangosir eu bod yn effeithiol, cânt eu rhannu â Byrddau Iechyd eraill yng Nghymru, gan osgoi dyblygu ymdrech. Bydd yr hyn a ddysgir o'r prosiect yn cael ei ddosbarthu i gydweithwyr yn GIG Cymru a bydd yn sail i ddatblygiadau yn y dyfodol.

Ymhellach, mae rhwydwaith o fferyllwyr ac academyddion sydd â diddordeb mewn seicoleg iechyd a defnyddio meddyginiaethau yn datblygu yng Nghymru, a fydd yn datblygu gweithgarwch pellach yn y maes hwn. Mae arweinwyr y prosiect hwn wedi'u cysylltu'n dda â'r rhwydwaith hwnnw.