Skip i'r prif gynnwys
Datganiad i'r Wasg

Comisiwn Bevan yn rhyddhau glasbrint ar gyfer trawsnewid iechyd a gofal yng Nghymru

Mae Comisiwn Bevan wedi rhyddhau Y Sylfeini ar gyfer Model Iechyd a Gofal y Dyfodol yng Nghymru, yn galw am drawsnewidiad dewr ac arweinyddiaeth weledigaethol yn wyneb tirwedd iechyd sy’n newid yn gyflym.

Mae’r adroddiad hwn yn mynd i’r afael â’n hanghenion demograffig newidiol, gan gydnabod y cynnydd mewn anweithgarwch economaidd oherwydd salwch, poblogaeth sy’n heneiddio, ac anghydraddoldebau iechyd sy’n ehangu a waethygir gan ffactorau cymdeithasol-economaidd ac amgylcheddol. Mae Comisiwn Bevan yn cynnig strategaeth gydweithredol, cymdeithas gyfan, sy’n integreiddio iechyd y cyhoedd, atal salwch, a chymorth cymunedol ar draws pob sector. Mae’r model arfaethedig hwn yn hyrwyddo dulliau newydd beiddgar, gan bwysleisio pwysigrwydd data, technoleg, a gweithlu medrus wrth greu system gynaliadwy a deinamig sy’n addas ar gyfer y dyfodol, tra’n anrhydeddu egwyddorion sylfaenol y GIG.

Meddai Cyfarwyddwr Comisiwn Bevan, Dr Helen Howson:

“Rydyn ni i gyd yn gwybod, mewn byd sy’n newid yn gyflym, fod yn rhaid i’n system iechyd a gofal hefyd addasu i ddiwallu anghenion y presennol a’r dyfodol a bod yn barod i ymateb i gyfleoedd yn y dyfodol wrth iddynt godi. Mae’r adroddiad hwn yn cydnabod hyn ac yn gosod pedair sylfaen a fydd yn ein galluogi i weithredu ac ymateb yn unol â hynny, gan fynd i’r afael â’r heriau a’r potensial, o’r addewid o dechnolegau newydd i gynaliadwyedd y gweithlu, systemau, a gwasanaethau. Mae'r adroddiad hwn yn plethu'r hyn a ddysgwyd gan arweinwyr iechyd a gofal a gydnabyddir yn rhyngwladol yn ein cynhadledd nodedig yn 2023 'Y Pwynt Tipio: Ble Nesaf ar gyfer iechyd a gofal?' yn ogystal ag o'n rhaglen 'Sgwrs â'r Cyhoedd' 2023, a gasglodd dros 2000 o safbwyntiau ar gyflwr a dyfodol iechyd a gofal ledled Cymru. Gan ddwyn ynghyd y dimensiynau arbenigol a chyhoeddus hyn, mae'r adroddiad hwn yn gosod y sylfeini ar gyfer system iechyd a gofal flaengar ac ymatebol sy'n barod i gwrdd â heriau heddiw yn ogystal â rhagweld heriau yfory.'

Nodiadau i Olygyddion

Comisiwn Bevan yw prif felin drafod annibynnol Cymru ar gyfer iechyd a gofal.

Gallwch weld yr adroddiad hwn yma: https://bevancommission.org/the-future-foundations-for-the-future-model-of-health-and-care-in-wales

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â Rheolwr Cyfathrebu Comisiwn Bevan: homccann@swansea.ac.uk

Darganfod mwy