Catherine Quarrell a Charles Patterson
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Cefndir:
Yn aml, staff gweinyddol yw'r arwyr anweledig mewn gofal iechyd. Nod y prosiect hwn yw gwella ymgysylltiad, cymhelliant a hyder, i annog staff i hyrwyddo'r defnydd o dechnolegau digidol ac ymgynghoriadau rhithwir.
Bu'n rhaid i'r GIG yng Nghymru addasu a newid darpariaeth gwasanaeth yn gyflym i gynnal gofal iechyd a disgwylir i staff Anghlinigol groesawu'r newid hwn yn ystod cyfnod cymharol fyr o amser ac yn aml heb fawr o gymorth nac ymgysylltiad.
Bydd y prosiect yn grymuso gweinyddwyr i ddewis ymgynghoriadau rhithwir yn lle dulliau mwy traddodiadol o gyflwyno megis ymgynghoriadau wyneb yn wyneb a thros y ffôn.
Nodau’r Prosiect:
- Gwneud y Gwasanaeth Rheoli Poen a Blinder yn wasanaeth Digidol yn Gyntaf
- Creu gweithlu medrus a thosturiol sy’n croesawu’r defnydd o dechnolegau digidol.
- Ffocws ar rymuso staff trwy ddarparu mwy o wybodaeth ac annog hunanreolaeth, archebu electronig, y defnydd o gymwysiadau gwe a thechnolegau newydd eraill.
- Datblygu model gwasanaeth cynaliadwy sy’n sicrhau’r gwasanaeth cywir gan y gweithiwr proffesiynol cywir yn y lle iawn ar yr amser iawn.
- Trawsnewid a datblygu ein gweithlu a’r ffordd y caiff y gwasanaeth ei ddarparu
Heriau:
Mae newid arferion sydd wedi'u gwreiddio yn y ffordd y mae pobl yn gweithio yn cymryd amser. Mae tîm y prosiect wedi goresgyn yr heriau hyn trwy gyfres o gyfarfodydd strwythuredig a dulliau amgen o gael adborth gwerthfawr gan gydweithwyr, a gyfrannodd at adolygiad o arferion gweinyddol cyfredol ac angerdd a rennir i gyflawni canlyniadau a fyddai o fudd i staff ac unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth.
Canlyniadau Allweddol:
Datblygu dull safonol drwy sesiynau hyfforddi grŵp ac 1:1, rhannu gwybodaeth a datblygu adnoddau defnyddwyr a rennir i sicrhau bod prosesau mwy effeithlon yn cael eu gweithredu a fydd yn arwain at fwy o bobl yn manteisio ar ymgynghoriadau rhithwir yn erbyn dulliau mwy traddodiadol.
Adborth:
Camau Nesaf:
Mae’r rhaglen yn parhau i addasu i faterion presennol y gweithlu, gan ddefnyddio sgiliau a gwybodaeth ein tîm presennol i hyfforddi a datblygu’r recriwtiaid newydd ac i gymryd yr hyn yr ydym wedi’i ddysgu drwy’r prosiect a rhannu hyn â’r bwrdd iechyd ehangach.
Mae partneriaeth yn cael ei sefydlu ar hyn o bryd gyda Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) i ddatblygu cysylltiadau â’u tîm cymorth digidol sydd newydd eu penodi. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i wella llythrennedd digidol a lleihau arwahanrwydd ac unigrwydd i gleifion, yn enwedig yn ystod yr amseroedd hyn.
O ganlyniad i'r prosiect hwn, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi darparu cyllid am ddeuddeg mis i gyflwyno'r prosiect i wasanaethau ar draws y Bwrdd Iechyd.
Ein Profiad Enghreifftiol:
Mae’r profiad wedi atgyfnerthu fy nghred yn awydd y byrddau iechyd am newid. Mae gallu cysylltu’n ehangach â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol wedi ychwanegu dyfnder at ddealltwriaeth o heriau, gan gynnwys yr angen i ailadeiladu cymunedau ar ôl Covid-19.
Arddangosfa:
Cysylltwch â:
Catherine Quarrell: Catherine.quarrell@wales.nhs.uk
Charles Patterson: Charles.patterson@wales.nhs.uk
Trydar: @PTHBPainFatigue