Cymrodyr Bevan Aelod o'r Grŵp Llywio
Mae Dr Rachel Rahman yn uwch ddarlithydd yn yr adran seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n arwain Canolfan Ragoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig y Brifysgol ac mae’n rhan o dîm rheoli Hyb Dyfodol Gwledig y Brifysgol, y ddau ohonynt yn anelu at ddod â phersbectifau rhyngddisgyblaethol i bynciau iechyd gwledig a gwledigrwydd yn y drefn honno. Mae ymchwil Rachel yn canolbwyntio ar rôl technoleg ac arloesi i wella mynediad trigolion gwledig at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol trwy ddeall profiadau a dewisiadau cyhoeddus a phroffesiynol.