Cymrodyr Bevan Aelod o'r Grŵp Llywio
Mae'r Athro Mark Taubert yn ymgynghorydd ysbyty meddygaeth liniarol ac yn gyfarwyddwr clinigol yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Mae ei weithgareddau addysgu/ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnwys cynllunio gofal ymlaen llaw, gofal lliniarol acíwt, technoleg a chyfryngau newydd a gwneud penderfyniadau DNACPR. Ef yw sylfaenydd TalkCPR.com ac mae ganddo rôl arweiniol genedlaethol i wella dealltwriaeth y cyhoedd ar bynciau sy'n berthnasol i ofal ym mlynyddoedd olaf bywyd. Mae wedi traddodi Sgwrs Ted ar gynildeb mewn iaith sy’n berthnasol i ddarpariaeth gofal iechyd modern, ac mae’n ysgrifennu ar gyfer allfeydd newyddion rhyngwladol fel y Washington Post, y Guardian ac Al Jazeera. Twitter: @ProfMarkTaubert