Skip i'r prif gynnwys
Prosiect Carfan 7 Enghreifftiol Bevan

Fframwaith a Chynllun Dyfarnu Gofal Sylfaenol Cymru Gwyrddach

Angharad Wooldridge, Victoria Hannah, Sian Evans a Huw Williams

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Newid yn yr hinsawdd yw'r her fwyaf i iechyd yn y tymor canolig a hir ac mae'r canlyniadau'n debygol o fod yn eang ac yn andwyol. Er mwyn lliniaru’r effeithiau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer datgarboneiddio’r sector cyhoeddus erbyn 2030 ac ar gyfer allyriadau sero net o bob sector erbyn 2050. Mae Cynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru yn nodi’r trywydd ar gyfer cyflawni’r targed hwn o fewn y GIG, fodd bynnag, nid yw'r ddogfen lefel uchel hon yn rhoi'r offer ymarferol sydd eu hangen ar leoliadau gofal sylfaenol i weithredu newid. Yn Lloegr, fodd bynnag, yr Effaith Werdd ar gyfer cynlluniau iechyd mewn practis cyffredinol a deintyddiaeth sy'n darparu'r adnodd hwn. Nodwyd felly bod angen fframwaith cynaliadwyedd amgylcheddol Cymreig pwrpasol ar gyfer pob contractwr gofal sylfaenol annibynnol.

Y Prosiect:

Bydd y fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach a’r cynllun dyfarnu yn cefnogi’r pedwar contractwr gofal sylfaenol annibynnol yng Nghymru* i gymryd camau gweithredu cynaliadwyedd amgylcheddol yn ymarferol. Yn y dyfodol gellid ehangu'r fframwaith i gynnwys camau gweithredu ar lefel gofal sylfaenol cydweithredol a chlwstwr. Bydd y fframwaith yn cyd-fynd â Chynllun Datgarboneiddio GIG Cymru a'r pecynnau cymorth Effaith Werdd ar Iechyd presennol.

Canlyniadau'r Prosiect:

Cyflawnwyd yr amcan o 5% o gontractwyr proffesiynol ledled Cymru yn cofrestru gyda’r fframwaith yn gynt na’r disgwyl erbyn dechrau mis Awst 2022.

Practisau cyffredinol oedd y math o gontractwr a ymgysylltwyd fwyaf o bell ffordd, gyda dros 14% ledled Cymru yn cofrestru. Mae tua thraean o bractisau cofrestredig wedi dechrau cofnodi cynnydd yn erbyn camau gweithredu drwy'r fframwaith digidol.

Cyfrannu at gyrraedd targedau cyfreithiol rwymol o ran y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2030.

Effaith y Prosiect:

Meithrin gallu a chymhwysedd o fewn y gweithlu gofal sylfaenol a'i randdeiliaid strategol trwy sesiynau codi ymwybyddiaeth, addysg a gweithredu.

Effaith ehangach: Dylanwadu ar ddeddfwriaeth yn ymwneud â grantiau gwella meddygon teulu, gan ganiatáu i arian grant gael ei ddefnyddio tuag at liniaru hinsawdd. Cydnabyddiaeth genedlaethol gan Bennaeth Gwasanaethau Offthalmig Gogledd Iwerddon yn llongyfarch Cymru ar “arwain y ffordd” yn dilyn cyhoeddi erthygl Optometry Today. Mae nodau Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach 2025 yn cynnwys camau i fferylliaeth gymunedol ymuno â’r cynllun.