Skip i'r prif gynnwys
Prosiect Carfan 7 Enghreifftiol Bevan

Methiant y Galon yn Nes Adref: Hyb Cymunedol

Karen Hazel

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Mae'r prosiect arfaethedig yn adeiladu ar wersi a ddysgwyd o ddarn o waith gwella gwasanaeth cydweithredol llwyddiannus rhwng y Gwasanaeth Methiant y Galon a Arweinir gan Nyrsys a'r Rhaglen Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPABM). Arweiniodd gwaith cychwynnol i ailgynllunio llwybr cleifion mewnol ar gyfer cleifion a ryddhawyd o ofal cardioleg acíwt at leihad sylweddol mewn amseroedd aros rhwng atgyfeirio ac apwyntiad. Yn 2019/20 roedd cleifion ar ôl cael eu rhyddhau o’r ysbyty yn aros 63 diwrnod ar gyfartaledd o dderbyn atgyfeiriad i’w hapwyntiad ysbyty claf allanol cyntaf.

Ers mis Hydref 2020 mae pob claf bellach yn cael dau apwyntiad o fewn 35 diwrnod. Mae apwyntiad dilynol amserol ar ôl rhyddhau o'r ysbyty yn caniatáu optimeiddio meddyginiaethau o fewn pedwar mis a oedd wedi cymryd hyd at 12 – 24 mis yn flaenorol. Mae hyn yn arwyddocaol gan ei fod yn golygu ein bod fel gwasanaeth yn cwrdd â safonau archwilio cenedlaethol a safonau sy'n seiliedig ar dystiolaeth nad oeddem yn gallu eu cyflawni yn hanesyddol.

Roedd ailgynllunio'r llwybr yn galluogi'r gwasanaeth i gasglu Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs) er mwyn sefydlu ymgysylltiad cleifion ar adegau penodol ar hyd y llwybr. Daeth yn amlwg yn fuan nad oedd angen apwyntiad claf allanol mewn lleoliad gofal eilaidd ar garfan fawr o gleifion.

Nodau ac Amcanion:

  • Profi Model gwahanol i leihau aildderbyniadau, cynyddu'r nifer sy'n derbyn adsefydlu cardiaidd a gwella canlyniadau sy'n ymwneud ag ansawdd bywyd a chanlyniadau iechyd
  • Rhoi mwy o bwyslais ar adsefydlu ar gyfer darparu rhaglen ofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwneud y gorau o gleifion HF ar eu meddyginiaethau
  • Rhyddhau capasiti arbenigol ar gyfer y cleifion mwy cymhleth

Effaith y Prosiect:

  • Gwelliannau mewn ymarfer corff, QOL – adrodd am ostyngiad mewn sgôr pryder ac iselder.
  • Cyflawnwyd optimeiddio meddyginiaeth 15 wythnos ar gyfartaledd o gymharu â 28 wythnos mewn gofal arferol.
  • Cyfradd aildderbyn 1.5% ~ cyfradd aildderbyn arferol 25%.
  • Rhyddhawyd 335 o apwyntiadau mewn gofal eilaidd i gleifion mwy cymhleth.
  • Cyfarfodydd Cyd-gynhyrchu x 3 wedi eu cynnal.

Buddiannau Cleifion:

Mae llwybr Joseph yn adlewyrchu oedi amserol a nifer o apwyntiadau gofal eilaidd. Diffyg ymgysylltiad cleifion.

Gwelwyd Jack yn amserol, yn unol â chanllawiau NICE/NICOR, cafodd ei optimeiddio ar driniaeth o fewn 3 mis. Roedd yn cymryd rhan yn ei ofal a chyflawnwyd ei nod trwy fynychu Adsefydliad Cardiaidd.