Bruno Cullinan
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Elfen benodol o nod sero net y GIG erbyn 2040 yw lleihau allyriadau nwyon anesthetig. Mae Ocsid Nitraidd yn unig yn cyfrif am 75% o gyfanswm yr ôl troed nwy anaesthetig a chanfu gwaith diweddar yn GIG Lothian mai gwastraff o faniffoldiau trwy bibellau oedd yn cyfrannu fwyaf at hyn o bell ffordd. Canlyniad eu gwaith oedd dadgomisiynu un o'r maniffoldiau Ocsid Nitraidd ac felly'r lleihad mewn allyriadau di-ddefnydd.
Y Prosiect:
Mae strwythur a threfniadaeth safle Ysbyty Gwynedd, ac yn wir y lleill yng Ngogledd Cymru, yn wahanol i rai Lothian ac felly hefyd yr heriau a wynebir wrth leihau gwastraff nwyon anesthetig. O ganlyniad i hyn rydym yn bwriadu defnyddio’r fframwaith a grëwyd gan y prosiect Nitrous Oxide yn Lothian ond ei addasu gyda syniadau arloesol i ffitio poblogaeth ac isadeiledd ysbytai Gogledd Cymru, gan ddechrau ym Mangor.
Sut bydd hyn yn cael ei gyflawni:
Er bod y defnydd o Ocsid Nitraidd wedi newid yn ddramatig mewn arfer clinigol dros y degawd diwethaf, mae'n parhau i fod yn feddyginiaeth ddefnyddiol, ac yn wir hanfodol, sydd â lle mewn lleoliad gofal iechyd uwch. Yr hyn nad yw'n dderbyniol yw'r gwastraff enfawr sy'n gysylltiedig ag ef ac felly mae ein prosiect yn ceisio lleihau hyn. I wneud hyn byddwn yn ymgysylltu â chlinigwyr nid yn unig o’r adran anesthetig ond hefyd o’r adran fferylliaeth yn ogystal â phersonél anghlinigol sydd â diddordebau perthnasol: ystadau, porthorion a gwasanaethau ysbyty. Teimlwn fod y dull trawstoriadol hwn yn hanfodol i sicrhau newid ystyrlon a chynaliadwy er gwell i gleifion a’r boblogaeth ehangach fel ei gilydd.
Buddion a ragwelir:
Gostyngiad mewn gwastraff Ocsid Nitraidd