Ruth James
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Mae risg sylweddol y bydd meddyginiaethau cleifion yn cael eu newid yn anfwriadol ar draws darparwyr gofal, a all effeithio ar ddiogelwch cleifion 1.
Wrth i dimau fferylliaeth yn yr ysbyty arwain ar agweddau sy'n ymwneud â meddyginiaeth ar ryddhau cleifion o'r ysbyty, mae integreiddio fferyllwyr clinigol i bractisau meddygon teulu yn galluogi datblygu gwasanaeth tebyg sy'n cysoni meddyginiaeth mewn Gofal Sylfaenol, gan sicrhau na wneir unrhyw newidiadau anfwriadol i feddyginiaeth cleifion a sicrhau parhad o gofal wrth drosglwyddo ar draws lleoliadau gofal 2.
Mae systemau diogel i reoli gwybodaeth a chyflenwi meddyginiaethau ar draws darparwyr gofal yn ganolog i ofal diogel o ansawdd uchel 3.
Y Prosiect:
Cysoni meddyginiaeth ar gyfer cleifion sy'n cael eu rhyddhau o dimau meddygol yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg sydd wedi'u cofrestru i bractisau sy'n cymryd rhan yng Nghlwstwr Gogledd Sir Benfro, yn unol â nod Cyngor Fferyllol Cymru y bydd pob claf sy'n trosglwyddo o un lleoliad gofal i'r llall, erbyn 2030, yn cael adolygiad ffurfiol o'u meddyginiaethau. gan y tîm fferylliaeth.
Canlyniadau'r Prosiect:
- Nodi gwallau rhagnodi critigol mewn gofal eilaidd, ac atal ailadrodd mewn practis cyffredinol
- Gostyngiad yn nifer y cleifion sy'n cael mynediad at feddyginiaeth nad yw wedi'i diweddaru yn dilyn newidiadau mewn Gofal Eilaidd
- Rhyddhau amser clinigwr yn y practis
- Nodi themâu cyffredin a allai gyfrannu at gamgymeriadau meddyginiaeth pan fydd cleifion yn symud rhwng lleoliadau gofal.
-
Sefydliad Iechyd y Byd Diogelwch meddyginiaethau wrth drosglwyddo gofal 2019
- Cyngor Fferyllol Cymru Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach. Ebrill 2019
- Canllawiau’r Comisiwn Ansawdd Gofal ar gydymffurfio: Safonau Ansawdd a Diogelwch hanfodol Mawrth 2010