Emma Hayhurst, Llusern Gwyddonol
Jeroen Nieuwland, Llusern Gwyddonol
Alison King, Patholeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Cefndir:
Heintiau llwybr wrinol (UTIs) yw un o'r heintiau bacteriol mwyaf cyffredin yn fyd-eang. Mae 90% o gleifion UTI yn fenywod, ac mae'r risg o ddioddef o UTI yn cynyddu gydag oedran. Gall hyd yn oed UTIs acíwt anghymhleth fod yn boenus ac yn wanychol a gall UTI gael canlyniadau hirdymor difrifol, gan gynnwys sepsis. Er gwaethaf hyn, nid oes unrhyw offer diagnostig da sy'n addas ar gyfer pwynt gofal, sy'n golygu bod diagnosis hwyr a than ddiagnosis yn gyffredin. Mae triniaethau UTI yn cyfrif am 10-20% o bresgripsiynau gwrthfiotigau cymunedol ond mae llawer o'r gwrthfiotigau hyn yn cael eu dosbarthu'n ddiangen, gan hybu lledaeniad ymwrthedd gwrthfiotig. Mae apwyntiadau sy'n gysylltiedig â UTI yn faich sylweddol ym maes gofal sylfaenol ac mae ail-ymgynghori yn gyffredin.
Nodau:
- Gwella diagnosis a thriniaeth UTI
- Dilysu perfformiad y prawf UTI pwynt gofal newydd
- Gwerthuso effaith glinigol bosibl defnyddio'r prawf mewn gofal sylfaenol
- Pennu llwybr ar gyfer mabwysiadu'r prawf yn ehangach
Dull:
- Gwerthusiad perfformiad clinigol yn erbyn dull traddodiadol (500 sampl)
- Grwpiau ffocws defnyddwyr ac arddangosiadau gyda meddygon teulu
- Ymgysylltu â phartneriaid masnachol a phenderfynu ar y llwybr i'r farchnad
Canlyniadau/Buddion
- Sensitifrwydd clinigol da a phenodoldeb
- Gwell am ganfod heintiadau gwirioneddol mewn samplau twf cymysg
- Gall weithio fel prawf diystyru i wella stiwardiaeth gwrthfiotigau
- Gallai gael effaith mewn lleoliadau gofal sylfaenol, cymunedol, eilaidd a brys, gan arwain at lai o alw am wasanaethau, llai o gostau, a chanlyniadau gwell i gleifion
- Rhagwelir manteision sylweddol i gleifion
Beth Nesaf
- Marcio CA y DU
- Gwerthusiadau byd go iawn
- Cymharu â ffyn trochfaen
- Ymgysylltu â llunwyr polisi
- Llwybr masnachol wedi'i fapio
- Sefydlu labordy cynhyrchu yng Nghaerdydd
- Gwerthusiad perfformiad NIHR annibynnol