Skip i'r prif gynnwys
Lawrlwytho Cyhoeddiad

Awdur: Yr Athro Syr Mansel Aylward

Cyhoeddwyd: 

Rwy’n falch iawn bod Comisiwn Bevan wedi cynnal ei gyfarfod cyhoeddus cyntaf ddydd Mercher 11 Rhagfyr 2013, yng Ngwesty’r Ddraig yn Abertawe. Hoffwn fynegi fy niolch i’r aelodau o’r cyhoedd a fynychodd ac a gymerodd ran, gan roi eu barn ar y materion sy’n wynebu GIG Cymru.

Yn ogystal â chyflwyniadau byr gan aelodau'r Comisiwn ar eu gwaith hyd yn hyn, roedd cyfle hefyd i aelodau'r cyhoedd siarad a rhoi eu barn ar yr hyn y maent yn teimlo y dylai'r blaenoriaethau ar gyfer gofal iechyd fod. Roedd gan lawer o’r rhai a fynychodd ddiddordeb proffesiynol yn GIG Cymru, naill ai’n gweithio i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, neu i sefydliadau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd. Ond roedd yna bobl yno hefyd yr oedd eu profiad o'r gwasanaeth yn brofiad pobl a oedd yn ei ddefnyddio ac yn dibynnu arno, a chroesawyd eu mewnbwn yn arbennig.

Yn ystod y noson gwahoddwyd y gynulleidfa i bleidleisio'n rhyngweithiol ar faterion allweddol ac mae'r canlyniadau yn faromedr diddorol o ganfyddiad y cyhoedd a naws y cyhoedd. Roedd canlyniadau'r pleidleisio yn sbardun defnyddiol i'r drafodaeth, er eu bod yn dod o sampl fach o bobl, felly maent yn annhebygol iawn o fod yn gynrychioliadol o'r cyhoedd yn gyffredinol.

Rwyf wedi ysgrifennu’r nodyn byr hwn i roi’r canlyniadau hyn yn gyhoeddus, gyda’r gobaith y byddant yn ennyn ymateb.