Skip i'r prif gynnwys
Lawrlwytho Cyhoeddiad

Awdur: Comisiwn Bevan

Cyhoeddwyd: 

Mae hyn yn adeiladu ar ganfyddiadau adroddiad Comisiwn Bevan yn 2016 Gweithlu sy’n addas ar gyfer Gofal Iechyd Darbodus, mae’r papur hwn yn archwilio gweithlu’r dyfodol drwy lens ddarbodus, o fewn cyd-destun model cymdeithasol o iechyd a gofal.

Mae’n argymell y bydd angen i weithlu sy’n addas ar gyfer y dyfodol fod yn wahanol i’r un sydd gennym yn awr a chael ei rymuso i roi gofal iechyd darbodus ar waith. Bydd angen i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol gydweithio â chleifion a chymunedau (nid i neu ar eu rhan) a chymryd rhan yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael â'u hiechyd a'u gofal eu hunain.

Ategir hyn gan gynllun hirdymor Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n rhoi Gofal Iechyd Darbodus a'i egwyddorion wrth ei wraidd - cysyniad ac athroniaeth a ddatblygwyd ac a hyrwyddir gan Gomisiwn Bevan.

Mae Comisiwn Bevan yn nodi bod angen trawsnewid rolau iechyd a gofal traddodiadol yn gyflym i fynd â’r broses drawsnewidiol hon ymhellach fyth, gan gynnig rolau a thimau amlddisgyblaethol cyfun newydd ar draws iechyd a gofal cymdeithasol a disgyblaethau pwysig eraill megis; dadansoddwyr data iechyd, hyfforddwyr lles, technolegwyr iechyd a 'gofalwyr iechyd craidd' newydd. Byddai’r rôl hon yn rhoi anghenion cyfannol yr unigolyn (amgylcheddol, corfforol, cymdeithasol a seicolegol) wrth wraidd unrhyw drawsnewidiad rôl.

Mae hefyd angen clir i barhau i ehangu ar arallgyfeirio rolau presennol gan ganolbwyntio ar anghenion y dyfodol, mewn ffordd barhaus, hyblyg ac ymatebol. Bydd angen i'r genhedlaeth nesaf o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol ddatblygu cymwyseddau craidd mewn datrys problemau, technolegau sy'n dod i'r amlwg a chyfathrebu.

Mae Comisiwn Bevan yn galw am gynnwys y gweithlu ehangach (aelodau o’r cyhoedd, cleifion, gofalwyr a’r trydydd sector) o fewn cynlluniau gweithlu’r dyfodol. Bydd gwneud y mwyaf o'r sgiliau a'r asedau sydd gan y grwpiau hyn trwy hyfforddiant a chymorth arall yn hanfodol i sicrhau iechyd a gofal mwy cynaliadwy yn y dyfodol.

Mae angen meddwl yn greadigol ac arweinyddiaeth feiddgar i dreialu'r trawsnewidiadau hyn mewn rolau a gwasanaethau. Bydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr proffesiynol a'u colegau cynrychioliadol groesawu'r her a chydweithio ag eraill i ddod o hyd i'r atebion gorau.

Mae angen gwahanol ddulliau o hyfforddi a datblygiad proffesiynol trwy gynlluniau megis; bwrsariaethau ar y cyd o fewn y sector masnachol a gwyddorau bywyd (pob un o’r prif feysydd twf yng Nghymru), cydweithio parhaus rhwng y canolbwynt gwyddorau bywyd, y byd academaidd, a’r GIG. Prentisiaethau neu fwrsarïau iechyd a gofal ac ati. Bydd angen dulliau newydd hefyd i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr iechyd a gofal i ysgogi trawsnewid a datblygu'r sgiliau a'r cymwyseddau newydd i gyflawni hyn.

Mae Comisiwn Bevan yn galw ar Lywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd i gymryd camau brys i sicrhau bod yr adnoddau ariannol a fuddsoddir yn y gweithlu ar hyn o bryd yn ddarbodus a bod gweithlu GIG ffit ac iach yn cael ei hyrwyddo’n weithredol. Mae cyfraddau absenoldeb yn uwch yng ngweithlu’r GIG yng Nghymru (5.5%) nag yng ngweithlu ehangach Cymru (2.6%) a’r uchaf ar gyfer unrhyw ranbarth yn y DU ac yn gadael Cymru’n arbennig o agored i niwed. Oherwydd absenoldeb, salwch a heriau recriwtio, dibynnir fwyfwy ar staff asiantaeth i lenwi’r bylchau – mesur costus ac annoeth.

Mae recriwtio a chadw yn fater parhaus - bydd angen rolau newydd a llwybrau gyrfa mwy hyblyg ac integredig i gyd-fynd ag anghenion teuluoedd a gofal newidiol pobl, gan symud oddi wrth y llwybrau hyfforddi a datblygu sefydlog mwy traddodiadol. Dylid defnyddio hyn i helpu i wneud Cymru yn ddeniadol i recriwtio a chadw gweithlu iechyd a gofal y dyfodol mewn marchnad gystadleuol fyd-eang.

Dylai Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) arwain y ffordd wrth weithredu argymhellion y cyhoeddiad hwn, gyda chefnogaeth Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau GIG, Sefydliadau Proffesiynol a Byrddau Cynllunio Rhanbarthol yng Nghymru.