Skip i'r prif gynnwys
Lawrlwytho Cyhoeddiad

Awdur: Dr Rupa Chilvers, Sion Charles, Joanna Brown, Yr Athro Nick Rich, Helen Howson

Cyhoeddwyd: 15 Hydref 2021

Mae CAAI yn fethodoleg ar gyfer sefydliadau a rhwydweithiau sy'n gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a lles, a ddatblygwyd gan Gomisiwn Bevan. Gellir ei ddefnyddio i gefnogi'r broses o gyflwyno a mabwysiadu arloesedd fel rhan o wella, newid neu drawsnewid gwasanaethau.

Mae creu gofod cefnogol ar gyfer mabwysiadu ac addasu arloesedd yn cynyddu'r tebygolrwydd o ddilyniant llwyddiannus. Mae gwneud hon yn rhaglen strwythuredig â therfyn amser hefyd yn golygu bod y cerrig milltir yn glir ac mae yna bwynt terfyn y gall pawb weithio tuag ato er mwyn gwireddu buddion. Mae’r canllaw hwn yn amlygu’r agweddau pwysig ar ddylunio a rheoli gofod cefnogol fel rhan o Gam Cefnogi a Rhannu methodoleg CAAI.