Skip i'r prif gynnwys
Lawrlwytho Cyhoeddiad

Awdur: Dr Helen Howson

Cyhoeddwyd: Tachwedd 30, 2020

Adroddiad gan Gomisiwn Bevan wedi'i lywio gan Ddigwyddiad Ford Gron, o dan Reol Chatham House.

Mae’r papur hwn yn adeiladu ar drafodaethau gan Gomisiwn Bevan ar faterion sy’n ymwneud â Chartrefi Gofal yn ehangach ac effaith a goblygiadau Covid-19. Nodwyd yr angen i ganolbwyntio ar gamau gweithredu tymor byr i helpu i lywio'r penderfyniadau mwyaf brys a'r newidiadau angenrheidiol. Er mwyn llywio eu trafodaethau ymhellach, cynhaliwyd Digwyddiad Bord Gron, yn seiliedig ar Rheol Chatham House, ar 8 Medi 2020, a fynychwyd gan gynrychiolwyr gwadd o’r sector Cartrefi Gofal, y GIG, llywodraeth leol a’r trydydd sector.

Roedd pum Comisiynydd Bevan yn bresennol fel Cadeiryddion ar gyfer y digwyddiadau a'r sesiynau grŵp. Roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar, 'beth gweithredoedd tymor byr angen eu cymryd fel y gall Cartrefi Gofal, wrth symud ymlaen, osgoi'r marwolaethau gormodol a brofwyd ar ddechrau Covid-19, tra hefyd yn diwallu anghenion ehangach preswylwyr a'u perthnasau.. Y cyd-destun ar gyfer hyn oedd y posibilrwydd o ail don o Covid-19 yn effeithio ar Gymru yn y dyfodol, sydd hyd yn oed yn fwy perthnasol nawr wrth i ni weld achosion yn codi’n sylweddol. Nod y camau gweithredu allweddol a nodwyd gan Gomisiwn Bevan yw helpu i gyfrannu at yr ymdrech barhaus gan lawer i wella gofal mewn cartrefi drwy Covid-19. Mae’n atgyfnerthu llawer o’r gwaith sydd eisoes ar y gweill.

Yn benodol, mae’r canllawiau a nodir yn y Cynllun Cartrefi Gofal diweddaraf gan Lywodraeth Cymru a’r argymhellion yn ‘Adolygiad Cyflym o Gartrefi Gofal mewn Perthynas â Covid-19 yng Nghymru’ a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, i sicrhau bod Cymru’n cymryd y camau angenrheidiol i oresgyn. COVID-19.