Skip i'r prif gynnwys
Lawrlwytho Cyhoeddiad

Awduron: Scowen L, Howson H, Martin C

Cyhoeddwyd: 

Diben y ddogfen hon yw tynnu ar dystiolaeth ehangach i ddarparu argymhellion ynghylch sut y gellir darparu Arloesedd Darbodus drwy fudiad cymdeithasol dros newid, a’r ffordd orau o ddatblygu, cefnogi a chynnal hyn ar draws y system iechyd yng Nghymru.

Mae gwasanaethau iechyd a gofal iechyd yn brwydro i gadw i fyny â chyflymder y newid, gan roi pwysau ar system sydd eisoes dan bwysau. Mae demograffeg newidiol cleifion yn gofyn am ofal mwy cymhleth,
yn benodol mewn ymyriadau ar gyfer yr henoed. Mae datblygiadau technolegol a meddygol yn gyson ac mae disgwyliadau'r cyhoedd yn uwch nag erioed.

Bydd mynd i'r afael â'r pwysau hyn yn gofyn am ddull gwahanol sy'n cynnwys pawb, cleifion a gweithwyr proffesiynol. Mae angen ymagwedd ddarbodus at iechyd i wella canlyniadau trwy reoli galw, lleihau ymyriadau amhriodol a chynyddu effeithlonrwydd gofal a gwasanaethau. Rhaid inni drawsnewid yr hyn a wnawn; defnyddio’r asedau a’r adnoddau sydd ar gael inni. Rhaid i Arloesi Darbodus ddod yn rhan o ffordd pawb o weithio, er mwyn helpu i drawsnewid y model presennol i fod yn un sy’n adlewyrchu Egwyddorion Iechyd Darbodus.

Mae newid y ffordd yr ydym yn gweithio a’r ffyrdd yr ydym yn draddodiadol wedi meddwl am bethau yn anodd ac yn gymhleth, ond bydd meithrin hinsawdd gefnogol i newid diwylliant, o fewn fframwaith ar gyfer arloesi, yn rhoi’r cyfle gorau inni gyflawni’r newidiadau angenrheidiol. Mae’r papur hwn yn dod â thri chysyniad at ei gilydd i nodi sut y gallai symudiad cymdeithasol ysgogi arloesedd a darparu Iechyd Darbodus yn ymarferol.