Prosiect Carfan 8 Enghreifftiol Bevan

Fframwaith i Fesur Gwerth Systemau Gofal Iechyd yng Nghymru

Naveen Madhavan

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Cefndir y Prosiect:

Gyda'r defnydd cynyddol o TG, cymwysiadau digidol a data, bu angen brys am ffordd o fesur gwerth systemau gofal iechyd.

Er bod astudiaethau perthnasol wedi nodi nad oedd fframwaith o’r fath yn bodoli, bu modd i astudiaeth ddoethurol o fewn Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn 2019 ddatblygu fframwaith gwerth systemau gofal iechyd o ran ei nodweddion.

Mae'r prosiect hwn yn rhoi fframwaith ac offeryn ymarferol i ddefnyddwyr systemau a pherchnogion gwasanaethau i werthuso prosiectau TG newydd a mesur perfformiad y system.

Bydd gwerthusiad o'r fath yn galluogi sefydliadau i wneud y gorau o'u proses gaffael a'r effeithlonrwydd o'u systemau TG a fydd yn eu galluogi i ddarparu'r gwasanaeth gorau i ddefnyddwyr a chwsmeriaid.

Nodau ac Amcanion y Prosiect:

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan McKinsey yn dangos bod 45% o'r holl brosiectau TG yn mynd y tu hwnt i'r gyllideb, 7% yn fwy na'r amser cyflawni y cytunwyd arno a 56% yn darparu llai o werth na'r disgwyl.

Gan fod gwerth yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, nod y prosiect hwn oedd 'Cyflwyno fframwaith cenedlaethol i fesur gwerth systemau gofal iechyd yng Nghymru'.

Yr amcanion ategol oedd:

  1. Cydweithio o fewn Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ddatblygu a defnyddio’r fframwaith hwn i werthuso prosiectau TG cenedlaethol a pherfformiad systemau.
  2. Cynnig y fframwaith hwn i fyrddau iechyd ar gyfer gwerthusiadau systemau lleol.
  3. Ymestyn y fframwaith hwn i'w ddefnyddio yn y sector cyhoeddus ar gyfer prosiectau a gwasanaethau eraill.

Canlyniadau'r Prosiect:

Mae’r offeryn mesur gwerth ar gyfer systemau gofal iechyd yng Nghymru yn rhoi cyfanswm sgôr a chrynodeb o’r priodoleddau wedi’u rhestru.

Gellir diwygio'r teitlau priodoleddau a'r disgrifiadau at ddefnydd perthnasol gan sefydliadau a hoffai ddefnyddio'r model i fesur a gwella eu systemau neu eu gwasanaethau.

Effaith y Prosiect:

Yn absenoldeb offeryn priodol i fesur gwerth y systemau critigol clinigol, dim ond trwy ddefnyddio mesurau ansoddol y disgrifiwyd systemau gweithredol, caffaeliadau newydd a gweithgareddau perfformiad.

Bydd argaeledd fframwaith a'i offeryn mesur yn dod ag elfen feintiol i'w defnyddio wrth werthuso prosiectau newydd a pherfformiad systemau gweithredol.

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi penderfynu mabwysiadu’r model hwn i werthuso prosiectau TG newydd ac i fonitro perfformiad systemau.

Fodd bynnag, ni fydd y data o'r gweithgareddau hyn yn cael ei gynhyrchu mewn pryd i'w gynnwys yn yr adroddiad hwn.

Clywch Naveen yn siarad am ei brosiect:

Gweld poster y prosiect a sleidiau o Arddangosfa Enghreifftiol Carfan 8 Bevan

Share