Rachel Wright
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Yn BIPBC rydym yn casglu llawer iawn o ddata adborth cleifion a gofalwyr gan ddysgu oddi wrth gleifion. Yn anffodus, ni chaiff yr adborth hwn ei gymhwyso ar draws gwasanaethau. Ni allwn barhau i ailadrodd profiadau negyddol a themâu sy’n ailddigwydd o ran ansawdd gofal.
Y prosiect:
Hoffem ddatblygu fframwaith lle gallwn brofi’r hyn a ddysgwyd o brofiad claf, gofalwr a pherthnasau. Hoffem ddatblygu safonau profiad cleifion a gofalwyr sy'n cael eu cynhyrchu ar y cyd â chleifion a gofalwyr.
Hoffem gryfhau'r set sgiliau staff presennol i'w cefnogi a'u helpu i nodi dysgu o brofiad fel rhan o fethodoleg ddysgu.
Ymagwedd:
Byddwn yn gweithio gyda staff, cleifion, gofalwyr a pherthnasau i nodi beth yw profiad da a nodi gwelliannau y mae angen i BIPBC eu cyflawni i gyrraedd yno. Bydd hyn yn ffurfio cynllun 12 mis.
Buddion a ragwelir:
- Gwell dealltwriaeth o fanteision dysgu o brofiad cleifion a gofalwyr.
- Mwy o sgiliau staff yn grymuso gwasanaethau i gymryd cyfrifoldeb am ddata profiad cleifion ac adborth.
- Fframwaith clir i'r holl staff ei ddilyn o amgylch dysgu o brofiad.
- Gwell perthnasoedd â chleifion, gofalwyr a rhanddeiliaid.
- Safonau profiad cleifion a gofalwyr wedi’u cydgynhyrchu gan gleifion a gofalwyr sy’n adlewyrchu sut y dylai profiad da/eithriadol edrych.
- Mwy o fecanweithiau ar gyfer adborth gan gleifion a gofalwyr / ymgysylltu â phenderfyniadau bwrdd iechyd.
Bydd canlyniadau'r prosiect yn cryfhau llais y claf a'r gofalwr fel rhan allweddol o gynllunio gwasanaethau.