Skip i'r prif gynnwys
Lawrlwytho Cyhoeddiad

Awdur: Comisiwn Bevan

Cyhoeddwyd: Awst 31, 2022

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymarfer hunanreoli fel rhan o'u gofal arferol, yn enwedig pobl sy'n byw gyda chyflyrau hirdymor neu anableddau. Mae pob un ohonom angen y wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i ofalu amdanom ein hunain o ddydd i ddydd a gwybod pryd i geisio gofal a chymorth er mwyn optimeiddio ein hiechyd a’n lles. Mae hunanreolaeth â chymorth nid yn unig yn ddarbodus; gall alluogi pobl i fyw bywyd bodlon a chael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal pan fo hynny'n berthnasol ac yn briodol. Gall hefyd helpu i sefydlu proses gwneud penderfyniadau ar y cyd rhwng yr unigolyn a’i dîm gofal i sicrhau bod eu sgiliau, eu cryfderau a’u galluoedd yn cael eu gweld ochr yn ochr â’u hanghenion a’u bod yn cael eu hadeiladu arnynt wrth fynd i’r afael â’r ‘hyn sy’n bwysig’ i’r unigolyn a’i deulu.