Skip i'r prif gynnwys

Awdur: Fran Targett, Comisiynydd Bevan

Cyhoeddwyd: 

Er ei bod yn amlwg bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymdrechion sylweddol i liniaru rhai o effeithiau economaidd Covid-19, mae’r sefyllfa i’r rhai a oedd mewn sefyllfa economaidd fregus yn flaenorol ac i’r rhai y mae eu hincwm wedi gostwng yn sylweddol yn parhau i fod yn anodd iawn. Er ein bod i gyd yn rhan ohono gyda’n gilydd wrth wynebu bygythiad Covid-19, mae’n bwysig cydnabod nad yw ei effaith economaidd a chymdeithasol wedi’i ddosbarthu’n gyfartal. Hyd yn oed cyn y pandemig hwn, roedd gan 11.5 miliwn o bobl yn y DU lai na £100 o gynilion i ddisgyn yn ôl arnynt ac nid oedd gan fwy na chwarter cartrefi Cymru ddigon o gynilion i dalu am eu hincwm rheolaidd am fis yn unig. Mae’n amlwg bod bylchau yn effeithiolrwydd cymorth presennol y llywodraeth. Mae cymorth ychwanegol a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi llenwi rhai o’r bylchau hyn yng Nghymru yn rhannol. Cafodd y cynigion hyn ar gyfer Llywodraeth Cymru eu dogfennu yn adroddiad Cyngor ar Bopeth Cymru 'Helpu pobl drwy'r pandemig Covid-19', ond bydd effaith llawer o unigolion yn enfawr o hyd.

Gyda llawer o unigolion wedi'u diswyddo, wedi lleihau oriau neu'n cael eu rhoi ar ffyrlo, mae llawer yn ceisio ymdopi ar incwm is. Y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan hyn yw pobl yr oedd eu hincwm eisoes yn ansicr. Mae'r hunangyflogedig yng Nghymru yn cyfrif am 13% o'r gweithlu 16-64 oed (183,000 o bobl) ac mae'r mwyafrif o'r rhain wedi profi colled incwm ar unwaith a bron yn gyfan gwbl. Ni fydd llawer o'r rhain yn cyd-fynd â'r meini prawf ar gyfer cael cymorth gan y llywodraeth. Yn ystod pythefnos olaf mis Mawrth, cynyddodd nifer yr hawliadau Credyd Cynhwysol o gyfartaledd o 100,000 mewn cyfnod o bythefnos i 950,000 o hawliadau. Mae’r oedi gyda’r taliadau cychwynnol, lefel isel y budd-dal a’r anawsterau sy’n cael eu hadrodd gan bobl sy’n ceisio gwneud y cais hwn o bell, i gyd yn peri pryder mawr.

Mae Credyd Cynhwysol a gwybodaeth am gyflogaeth wedi bod yn ffocws llawer o ymholiadau i wefan Cyngor ar Bopeth yn y gorffennol diweddar sy’n nodi mai’r materion hyn yw’r prif bryderon i bobl. Mae'r wybodaeth drwy ffrwd Twitter Cyngor ar Bopeth (gweler y graff isod) yn adlewyrchu'r ymchwydd mewn hawliadau. Gwelwyd 185,000 o ymweliadau â thudalennau cyngor Credyd Cynhwysol Cyngor ar Bopeth mewn un wythnos, sef cynnydd syfrdanol o 265% ar yr un wythnos y flwyddyn flaenorol.

Ffynhonnell: Cyngor ar Bopeth

O ystyried y sefyllfa gydag incwm pobl, mae Cyngor ar Bopeth yn rhagweld y bydd anhawster gyda thalu biliau a dyled yn gyffredinol yn cynyddu. Er ei bod yn wir bod llywodraeth y DU wedi bod yn weddol feiddgar ar helpu gyda dyled – gan gynnwys gwyliau morgais a gwahardd troi allan – mae’r rhain i gyd yn drefniadau gohirio (mae’r ddyled yn parhau ond mae taliadau’n cael eu gohirio). Y pryder yw y gall y trefniadau hyn ddod i ben tra nad yw incwm pobl wedi gwella o fewn yr un amserlen. Y risg yw y bydd problemau dyled yn cronni hyd yn oed tra bod yr amddiffyniadau hyn ar waith gan arwain at tswnami o fethdaliadau, achosion o droi allan a datgysylltu gwasanaethau yn ddiweddarach.

Er y bydd y pryder ynglŷn â’r agwedd at ddyled yn y dyfodol, os na chaiff ei reoli’n dda, yn arwain at gynnydd mewn problemau tai a digartrefedd, un golau llachar yw, pan fydd argyfwng yn gyrru polisi, ei bod yn bosibl gwneud gwahaniaeth enfawr i ddigartrefedd ar y stryd. O ystyried effaith uniongyrchol a difrifol tai gwael neu ddigartrefedd ar afiechyd, dylai parhau i ddarparu tai fforddiadwy a phriodol ar gyfer yr unigolion hyn barhau i fod yn flaenoriaeth. Bydd yn bwysig cofio beth sydd wedi'i gyflawni mor gyflym ar sefyllfa a ddisgrifiwyd yn flaenorol fel un amhosibl mynd i'r afael â hi!

Rydym wedi cael ein cymell i fabwysiadu llawer o ffyrdd newydd o weithio yn gyflym a bu newidiadau mawr i ffyrdd o gysylltu â’r GIG, gan gynnwys cysylltiadau fideo a gwasanaethau ffôn. Mae'n bwysig nad yw'r wlad yn dychwelyd i'r 'busnes fel arfer' blaenorol unwaith y daw'r argyfwng hwn i ben. Mae eisoes yn amlwg bod llawer o bobl wedi mabwysiadu safbwynt gwahanol ynghylch yr hyn sy’n argyfwng yn hytrach na phryder iechyd mwy cyffredinol, o’r gostyngiad enfawr yn nifer y bobl sy’n mynd i adrannau achosion brys. Mae angen annog pobl i wneud gwell hunanasesiad (a hunan-driniaeth mewn llawer o achosion) yn y dyfodol. Mae'n ymddangos bod mynediad at ofal sylfaenol wedi gwella oherwydd gall pobl gael galwad ffôn yn ôl yr un diwrnod yn hytrach na dyddiau aros neu hyd yn oed wythnosau am apwyntiad.

Os nad yw’r sefyllfa hon wedi dysgu’r gyd-ddibyniaeth unigol rhwng iechyd a gofal cymdeithasol inni, yna rydym wedi bod yn ddall i’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd. Yn yr un modd y diffyg cyfatebiaeth mewn adnoddau rhwng y ddau sector, a oedd yn bodoli o'r blaen ac sy'n parhau i wneud hynny, (er enghraifft o ran mynediad at Offer Amddiffyn Personol).

Ar y cyfan, gwelaf y potensial ar gyfer canlyniad cadarnhaol yn y pen draw; a all wneud i golledion erchyll yr epidemig hwn ymddangos yn ystyrlon. Gall hyn fod yn gatalydd ar gyfer newid ein hymagwedd at yr economi, ar gyfer mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n endemig ar hyn o bryd yn ein cymdeithas a sut rydym yn mesur llwyddiant (ffocws ar les ehangach yn hytrach na chyfoeth yn unig).

Mae derbyn a deall y cysylltiad uniongyrchol rhwng cyffredinolrwydd mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol a’r angen i sicrhau iechyd economaidd a thai priodol i bawb yn hanfodol os ydym am gyflawni canlyniadau cyfartal. Trethiant cynyddol yw'r arf pwysicaf o hyd yn arfogaeth y llywodraeth i ddarparu mynediad cyffredinol i iechyd a gofal hanfodol. Mae'n rhaid i'r gwaith o ddarparu iechyd a gofal fod yn seiliedig ar yr egwyddor o gynnal iechyd ac yn arbennig sicrhau sylfaen gadarn i iechyd pawb.

Dyma’r foment i fod yn feiddgar (fel yr oedd Aneurin Bevan yn ei amser) ac ystyried yn wirioneddol fath o Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn seiliedig ar y Cyflog Byw go iawn ac a reolir drwy’r system drethiant i sicrhau bod y rhai sydd â’r lleiaf yn cael eu cefnogi.

Dyma’r foment i ailystyried yn iawn effeithiau polisi ariannol a budd-daliadau ar bobl anabl a sicrhau mai nod unrhyw gynllun ar gyfer Incwm Sylfaenol Cyffredinol yw galluogi cyfranogiad llawn i bawb mewn cymdeithas. Yr wyf yn cydnabod bod cost i hyn. Bydd yn rhaid talu cost economaidd Covid-19 ac mae’n anochel y bydd angen cynyddu trethiant.

Cynigiaf ein bod yn mesur llwyddiant ein hymateb i’r argyfwng hwn (yn rhannol), yn ôl a yw Cymru hefyd wedi codi i’r dasg a osodwyd gan Syr Michael Marmot yn ei adroddiad diweddaraf ar anghydraddoldebau iechyd:

“Ni all fod unrhyw dasg bwysicach i’r rhai sy’n ymwneud ag iechyd y boblogaeth na lleihau anghydraddoldebau iechyd”

Roedd Fran Targett OBE tan ei hymddeoliad yn 2019, yn Gyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru ac mae’n Gomisiynydd Bevan.