Skip i'r prif gynnwys
Lawrlwytho Cyhoeddiad

Awdur: Comisiwn Bevan

Cyhoeddwyd: Medi 30, 2020

Canfyddiadau ymchwil presennol ac arsylwadau cynnar o'r Rhaglen Mabwysiadu a Lledaenu.

Gan fyw mewn cyfnod digynsail, mae COVID-19 wedi effeithio ar fywydau pawb yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Wrth i weithwyr allweddol ymateb i ddiwallu anghenion y cymunedau o’u cwmpas, roedd yn anochel bod yn rhaid i lawer o’r ffyrdd presennol o weithio newid.

Yn y gyfres hon o gyhoeddiadau, rydym yn rhannu ein dadansoddiad a’n mewnwelediadau yn seiliedig ar ein safle unigryw yn arwain rhaglen genedlaethol fyw sy’n profi dulliau gweithredu i gefnogi mabwysiadu a lledaenu arloesedd yn llwyddiannus yng Nghymru, sef y Rhaglen Mabwysiadu a Lledaenu. Yma, rydym yn crynhoi’r themâu allweddol o ymchwil berthnasol yn ymwneud â mabwysiadu a lledaenu ym maes iechyd a gofal ar adeg achosion heintus a phandemigau neu wrth weithio mewn amgylcheddau aflonyddgar iawn, fel y profwyd yn ystod COVID-19. Mae gan y rhain oblygiadau pwysig ar gyfer polisi ac arfer presennol/y dyfodol, gyda rhai pwyntiau gweithredu uniongyrchol ar gyfer COVID-19 a thu hwnt.

Mae'r cyhoeddiad hwn, 'Make or Break', yn dwyn ynghyd rai o uchafbwyntiau'r ymchwil bresennol a chanfyddiadau cynnar y Rhaglen Mabwysiadu a Lledaenu. Mae’n dod i’r casgliad bod angen annog, ymddiried a chefnogi pobl i fabwysiadu a lledaenu syniadau newydd, gan ddefnyddio egni, cymhelliant a brwdfrydedd pobl. Dylai adlinio rhaglenni a chyfleoedd ariannu yn ogystal ag adeiladu ar gydweithrediadau, rhwydweithiau a gwybodaeth sy'n bodoli eisoes helpu i gyflymu'r broses o fabwysiadu a lledaenu syniadau arloesol. Mae'r ymchwil a'n harsylwadau cynnar yn dangos bod y ffactorau hyn yn fwy tebygol o ysgogi a throsi syniadau arloesol yn arfer parhaus yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.