Skip i'r prif gynnwys
Lawrlwytho Cyhoeddiad

Awduron: Dr Chris Subbe, Cymrawd, Sefydliad Iechyd, Dr Robert Royce, Ymchwilydd

Cyhoeddwyd: 

Mae nifer fawr o adroddiadau wedi canfod bod gwallau meddygol yn gyffredin a bod niwed yn effeithio ar rhwng pump a deg y cant o gleifion. Mae’n bosibl y gellir osgoi hanner y niwed hwn, ond mae 20 mlynedd o ymchwil i wella ansawdd wedi dod â gwelliannau cymedrol yn unig yng nghyfradd y cleifion sy’n dioddef o ddigwyddiadau niweidiol.

Mae’r adroddiad hwn yn dangos gwerth a photensial cydgynhyrchu wrth atal niwed trwy brofiad eiriolwyr cleifion, ymgyrchwyr diogelwch, ymchwilwyr gwasanaeth iechyd a phobl sy’n gweithio ym maes gofal iechyd.

Mae'r 'tystion arbenigol' yn dangos pa mor effeithiol yw cleifion? mae ymgysylltu â’u diogelwch eu hunain, yn enwedig yng nghyd-destun clefyd cronig, pan mai’r claf yn aml yw’r person sydd â’r wybodaeth orau am ei gyflwr a’r person sydd â’r persbectif gorau i ganfod dirywiad.

Mae’r papur yn crynhoi 13 o dystiolaethau sy’n amlygu sut mae gan wybodaeth cleifion a’r rhai sy’n agos atynt y pŵer i atal digwyddiadau andwyol difrifol. Mae'r papur hwn hefyd yn ceisio archwilio sut y gallai gwneud mwy o ddefnydd o wybodaeth, sgiliau ac angerdd cleifion a'u rhwydweithiau personol effeithio ar strwythur, proses a chanlyniadau gwasanaethau iechyd. Mae hefyd yn archwilio risgiau a buddion tebygol technoleg i hwyluso darpariaeth gofal iechyd mwy diogel yn y dyfodol.

Argymhellion allweddol

Mewn system sy’n ei chael yn anodd rheoli gofal iechyd cymhleth, mae gan gydgynhyrchu rhwng y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol y potensial i leihau digwyddiadau niweidiol a gwella diogelwch yn y GIG.

Nid yw egwyddorion ‘Gofal Iechyd Darbodus’ wedi bod yn fwy perthnasol ar unrhyw adeg: Mae angen i’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol weithio fel partneriaid cyfartal i gydgynhyrchu gwasanaethau, canolbwyntio ar y rhai sydd â’r angen iechyd mwyaf yn gyntaf a pheidio â gwneud unrhyw niwed, gwneud dim ond yr hyn sydd ei angen fel rydym yn deall pethau gyda'n gwybodaeth bresennol ac ar yr un pryd yn lleihau amrywiadau na ellir eu cyfiawnhau.

Bwriad y papur hwn yw ysbrydoli'r rhai sydd angen gofal meddygol a'r rhai sy'n gweithio ym maes iechyd neu bolisi gofal iechyd i archwilio modelau amgen mewn ymgais i leihau niwed y gellir ei osgoi.

Ein gobaith, fel awduron a noddwyr, yw y gallwn wneud hwn yn ddigwyddiad dysgu blynyddol i’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol, y bydd yn ysbrydoli newidiadau mewn credoau ac ymddygiadau ac yn y pen draw yn arwain at ofal iechyd mwy diogel.