Skip i'r prif gynnwys

Mae'n bryd siarad am ddyfodol iechyd a gofal.

Mae prif felin drafod iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol Cymru, Comisiwn Bevan, wedi lansio 'sgwrs gyda'r cyhoedd' am ddyfodol iechyd a gofal yng Nghymru. Mae hyn yn cydnabod yr heriau economaidd a gweithlu presennol, cynnydd yn y galw am wasanaethau a chymorth, anghenion newidiol yn ogystal â’r cyfleoedd newydd a gynigir trwy dechnoleg a gwahanol rolau a ffyrdd o weithio. Mae gan y cyhoedd yng Nghymru rôl hollbwysig i’w chwarae wrth lywio hyn, gan helpu i nodi blaenoriaethau ac atebion ar gyfer y dyfodol, fel rhan o gyfrifoldeb a rennir dros iechyd a gofal yng Nghymru. Bydd y ‘sgwrs gyda’r cyhoedd’ yn cynnwys trafodaeth arddull ‘neuadd y dref’ ym mhob ardal Bwrdd Iechyd yng Nghymru, gan weithio’n agos gyda phartneriaid lleol, rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2023, ynghyd â digwyddiad trafod cenedlaethol ar-lein ac arolwg ar-lein. Gwahoddir pob aelod o'r cyhoedd i'r digwyddiadau hyn, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Nod y trafodaethau hyn yw nid yn unig deall safbwynt y cyhoedd, ond cydweithio i ddatblygu atebion.

Dywedodd Cyfarwyddwr Comisiwn Bevan, Dr Helen Howson:

'Fel mewn llawer o wledydd, mae'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn wynebu heriau digynsail sy'n gofyn am atebion creadigol i sicrhau ei ddyfodol. Mae lleisiau a syniadau'r cyhoedd yn ganolog i hyn a dyna pam mae Comisiwn Bevan yn cynnal cyfres o sgyrsiau agored a gonest ledled Cymru ynghylch sut y gallwn ni i gyd gymryd cyfrifoldeb a chydweithio i greu system sy'n addas ar gyfer y dyfodol.'

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu’r fenter hon ac yn edrych ymlaen at weld y mewnwelediadau a’r adborth i lywio eu ffordd o feddwl.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Hugh McCann, Rheolwr Cyfathrebu: homccann@swansea.ac.uk

Darganfod mwy