Skip i'r prif gynnwys

Cadeirydd Emeritws Comisiwn Bevan

Cyn hynny, ef oedd Cadeirydd cyntaf Iechyd Cyhoeddus Cymru, a oedd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd cyhoeddus ar lefel genedlaethol, leol a chymunedol yng Nghymru. Ef oedd Cadeirydd Canolfan Iechyd Cymru, Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad a sefydlwyd i fod yn 'ganolbwynt i sefydliadau cysylltiedig' ac i gyfleu gwell negeseuon iechyd i bobl Cymru.

Mae’n gyn Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd ym Mhrifysgol Caerdydd a gynigiodd gyfle unigryw i ymestyn gwybodaeth a dealltwriaeth o’r ffactorau seicogymdeithasol, economaidd a diwylliannol sy’n dylanwadu ar iechyd, salwch, adferiad, adsefydlu ac ailintegreiddio. Yn flaenorol, roedd yn Brif Swyddog Meddygol, Cyfarwyddwr Meddygol a Phrif Wyddonydd yn yr Adran Gwaith a Phensiynau. Ar hyn o bryd mae'n Athro Iechyd a Lles Darbodus ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Athro a Chymrawd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn 2019 fe’i gwnaed yn Rhyddfreiniwr Anrhydeddus Merthyr Tudful, ei dref enedigol.

Gwnaethpwyd yr Athro Syr Mansel Aylward CB yn Gydymaith y Baddon yn 2002 a’i urddo’n farchog yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines yn 2010 am wasanaethau i iechyd a gofal iechyd.