Skip i'r prif gynnwys
Lawrlwytho Cyhoeddiad

Cyhoeddwyd: 

Awdur: Comisiwn Bevan

Mae Model Arloesedd Bhowmick (BIM) yn fodd o adleoli adnoddau presennol i ddiwallu'r anghenion gofal iechyd cynyddol a achosir gan y twf demograffig yn nifer y dinasyddion oedrannus.

Mae Comisiwn Bevan wedi ystyried y BIM fel un ffordd o ddiwallu’r angen hwn, a byddai’n argymell y model hwn fel sail ar gyfer safon gofal yr henoed. Mae Comisiwn Bevan yn cydnabod bod strategaethau eraill wedi’u datblygu yng Nghymru, ac mae’n credu y dylid mesur pob strategaeth yn erbyn y safonau a nodir yn y papur hwn, sef:

  • Darparu gofal rhagorol, diogel yn y gymuned i safon uwch nag mewn gofal eilaidd.
  • Darparu gwasanaethau newydd drwy adleoli adnoddau presennol, am gost sero net i GIG Cymru.
  • Cleifion a staff yn fodlon bod y ffordd newydd o weithio yn well.

Mae'r BIM yn seiliedig ar gyfluniad arloesol a chydweithredol llwyddiannus gwasanaethau yn y lleoliad cymunedol, yn Nhîm Asesu Clinigol Uwch Torfaen (ACAT) a Gofal Uwch Môn (MEC) yn Ynys Môn. Gyda'i gilydd mae ACAT a MEC wedi llwyddo i ddarparu gofal personol, sy'n canolbwyntio ar y claf yn y cartref, gan arbed dros £2.5m i'w byrddau iechyd priodol.