Awdur: WCVA, Comisiwn Bevan
Cyhoeddwyd: Hydref 14, 2022
Cynhyrchwyd y papur hwn mewn partneriaeth â Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) ar bapur yn mynd i'r afael â 'Gwerthoedd a Gwerth Gwirfoddoli' ym maes iechyd a gofal yng Nghymru.
Mae gwirfoddolwyr bob amser wedi gwneud cyfraniad hanfodol yng Nghymru, ond mae pandemig Covid wedi gwneud pŵer a photensial gwirfoddoli yn fwy gweladwy.
Mae pwysau ar ein system iechyd a gofal a’i gweithlu yn mynnu ein bod yn edrych yn fwy difrifol ar sut y gallwn wneud y mwyaf o botensial ein holl adnoddau, gan gynnwys gwirfoddoli.
Mae corff cynyddol o dystiolaeth i gefnogi effeithiau cadarnhaol gwirfoddoli ar iechyd a lles cleifion, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth, ar staff, ar systemau iechyd ac ar wirfoddolwyr eu hunain.