Skip i'r prif gynnwys
Lawrlwytho Cyhoeddiad

Awdur: Comisiwn Bevan a Bristol Myers Squibb (BMS)

Cyhoeddwyd: Ionawr 05, 2023

Amlygodd pandemig COVID-19 y potensial i systemau iechyd a gofal byd-eang harneisio pŵer data yn llawn, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial (AI) a thechnoleg iechyd digidol. Yng nghyd-destun iechyd a gofal yng Nghymru, mae ffocws cynyddol ar bolisi iechyd digidol gyda sefydlu Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) a sefydliadau ategol eraill. Mae system iechyd a gofal Cymru yn cydnabod yr angen i flaenoriaethu gwell defnydd o ddata ac mae cyfle unigryw bellach i arwain y ffordd a dod yn esiampl o ran sut y gall pob rhan o’r system wneud y mwyaf o ddata er mwyn darparu iechyd a gofal mwy darbodus. gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl nawr ac yn y dyfodol.

Papur ar y cyd rhwng Bristol Myers Squibb (BMS) a Chomisiwn Bevan.