Evelyn Gibson
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Anaf i'r Ymennydd ac Iechyd Meddwl - cwblhewch ein harolwg
Rydyn ni eisiau clywed gan unigolion sydd â phrofiad byw o anaf i’r ymennydd, eu teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr. Gall hyn hefyd gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Pwy all ymateb i'r arolwg?
- Oedolion â phrofiad byw o anaf i'r ymennydd
- Gofalwyr, teulu a ffrindiau
- Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
Mae'r arolwg yn cynnwys 6 chwestiwn am eich profiadau. Ar waelod yr arolwg, gallwch roi gwybod i ni os hoffech gymryd mwy o ran neu glywed mwy am ganlyniad ein prosiect.
Cwblhewch yr arolwg gan ddefnyddio’r cod QR neu ddefnyddio’r ddolen ganlynol i anfon eich ymateb i brosiect Pont i Therapi: https://forms.office.com/e/6hFXAVSRvq
Y Prosiect:
Mae Gwasanaethau Therapi Seicolegol Integredig (IPTS) yn darparu ystod o therapïau seicolegol i oedolion ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (HDUB). Mae staff IPTS o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol sydd wedi hyfforddi mewn therapïau seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Gall profi anaf i’r ymennydd arwain at newidiadau iechyd a all effeithio ar brofiad therapi seicolegol safonol. Efallai na fydd therapi seicolegol safonol mor ddefnyddiol i bobl sydd wedi cael profiad byw o anaf i’r ymennydd, a gofalwyr, ffrindiau a theulu.
Gellir addasu therapi seicolegol i fod yn fwy defnyddiol i bobl sydd wedi cael anaf i’r ymennydd, fodd bynnag nid yw hyfforddiant ar gyfer therapyddion iechyd meddwl fel arfer yn cynnwys y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol.
Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar gyd-gynhyrchu hyfforddiant a fydd yn hysbysu ac yn cefnogi therapyddion seicolegol i ddiwallu anghenion pobl sydd â phrofiad byw o anaf i'r ymennydd.
Bydd y prosiect hwn yn cynnwys:
- Siarad â phobl sydd â phrofiad personol o anaf i’r ymennydd, gan gynnwys gofalwyr, teulu a ffrindiau, am eu profiadau o wasanaethau iechyd meddwl y GIG.
- Cynhyrchu syniadau am sut i wella gwasanaethau therapi seicolegol lleol.
- Cyd-gynhyrchu pecyn hyfforddi ar gyfer therapyddion iechyd meddwl.