Skip i'r prif gynnwys
Prosiect Carfan 8 Enghreifftiol Bevan

Ymateb ambiwlans i Bobl mewn Argyfwng Iechyd Meddwl

Mark Jones, Simon Amphlett a Steve Clarke

Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Mae tua 100,000 o argyfyngau iechyd meddwl yng Nghymru bob blwyddyn. Mae’r rhan fwyaf yn cael eu rheoli gan bobl ar eu pen eu hunain, eu ffrindiau/teuluoedd, y sector gwirfoddol, gofal sylfaenol ac eraill. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod galwadau iechyd meddwl i wasanaethau ambiwlans yn y DU yn cyfrif am tua 10% o gyfanswm eu galw, a bydd llawer ohonynt yn dod i ben mewn ymweliad â’r Adran Achosion Brys.

Mae gan WAST ymarferwyr iechyd meddwl sy'n gweithio o bell i gefnogi galwyr argyfwng 999 sy'n profi'n hynod effeithiol wrth ddatrys argyfyngau. Fodd bynnag, mae rhai pobl angen mewnbwn wyneb yn wyneb oherwydd bod y risg i'r person yn rhy uchel, neu nid yw asesiad o bell yn bosibl. Nod y prosiect hwn yw profi dichonoldeb ymateb iechyd meddwl cyflym, wyneb yn wyneb.

Cynhelir y peilot mewn un ardal o fewn un bwrdd iechyd, mewn partneriaeth agos â defnyddwyr gwasanaeth, y bwrdd iechyd, gwasanaeth yr heddlu, gofal sylfaenol, y sector gwirfoddol a phartneriaid eraill. Mae'r union fodel staffio yn cael ei ystyried ar hyn o bryd, ond mae'n debygol o gynnwys gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol a pharafeddyg neu dechnegydd sy'n gweithio mewn Cerbyd Ymateb Cyflym. Byddant yn ymateb i alwadau 999 nad ydynt yn agored i asesiad ac ymyrraeth o bell ac sydd angen wyneb yn wyneb. Mewn ardaloedd eraill profwyd bod hyn yn lleihau’r galw am wasanaethau ambiwlans traddodiadol, ac yn lleihau’r galw ar Adrannau Achosion Brys. Bydd hefyd yn cael effaith ar alw iechyd meddwl yr heddlu a bydd yn gwella canlyniadau a phrofiad i bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth.

Clywch Steve Clarke yn siarad am ei brosiect: