Skip i'r prif gynnwys
Prosiect Carfan 8 Enghreifftiol Bevan

Cyn-sefydlu i adsefydlu – Optimeiddio iechyd a lles i unigolion â chanser y prostad - Integreiddio’r gwasanaeth â gofal sylfaenol

Helen Harries

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Mae mwy o bobl yn cael diagnosis ac yn goroesi canser y brostad bob blwyddyn ac mae dulliau trin canser datblygedig wedi cynyddu nifer y bobl sy'n byw gyda chanser y prostad. Er gwaethaf gwelliannau mewn goroesi, nid yw pawb sy'n cael eu heffeithio gan ganser y prostad yn byw'n dda. Mae dulliau triniaeth presennol ar gyfer canser y prostad yn gysylltiedig â risg uchel o sgîl-effeithiau ac mae ganddynt oblygiadau sylweddol ar ansawdd bywyd sy'n gysylltiedig ag iechyd.

Y prosiect:

Ym mis Hydref 2021, ariannwyd gwasanaeth rhithwir newydd ‘Prostate Active Care Together’ (PACT) i roi arfer gorau a gofal cyfannol ar waith sy’n grymuso pobl â chanser y prostad i hunanreoli sgîl-effeithiau triniaethau a gwella eu canlyniadau iechyd. Mae’r rhaglen yn manteisio ar y defnydd o’r dechnoleg sydd ar gael a llwyfannau digidol, er mwyn sicrhau mynediad amserol at asesiad a chymorth.

Ein gweledigaeth newydd fyddai gweithio ar y cyd â’n partneriaid gofal sylfaenol i esblygu’r gwasanaeth ymhellach, gyda’r potensial i’w ehangu a’i fabwysiadu ar sail Cymru gyfan.

Ymagwedd:

Defnyddio ymagwedd haenog at ddarpariaeth rheoli symptomau, darparu cyngor ar hunanreoli symptomau, ymarfer corff, ffordd iach o fyw, maeth a chyngor ar hwyliau, blinder a lles, i gleifion yr effeithir arnynt gan ganser y prostad o fewn BIPHDd.

Buddion a ragwelir:

Caniatáu i gleifion canser y brostad yn y gymuned gael mynediad at wybodaeth/ymyriadau cyn, yn ystod ac ar ôl triniaeth canser. Bydd yn rhoi’r cyfle i’r tîm raeadru gwybodaeth i’r tîm gofal sylfaenol os oes newidiadau meddygol i’r claf y mae angen mynd i’r afael â nhw, gan osgoi dwysau i wasanaethau brys a chleifion allanol.

Cyflwyno sesiynau ataliol 1:1 a rhith-ymyriadau grŵp gyda chleifion yn y gymuned er mwyn sicrhau'r iechyd a'r lles mwyaf posibl.

Bydd gan gleifion fwy o reolaeth dros eu hanghenion iechyd a lles ac yn cymryd rôl y claf arbenigol mewn perthynas â’u llesiant, maeth ac ymarfer corff eu hunain.

Gwell lles, ansawdd bywyd a gwell profiad i gleifion drwy daith canser y claf.