David Wyndham Lewis
Haelu yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cefndir:
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Haelu, cwmni newydd technoleg iechyd Cymru, yn gweithio tuag at ofal cymunedol mwy ataliol ac effeithlon, trwy helpu timau Gofal yn y Cartref i ddod yn fwy digidol yn eu gofal o gleifion ailalluogi a lliniarol.
Nodwyd tîm Gofal yn y Cartref Sir Benfro trwy gyfweliadau i fod yn fan prawf delfrydol ar gyfer y prosiect hwn, o ystyried y gwaith pwysig y maent yn ei wneud gyda'i gilydd a'r cysylltiadau â'r Ganolfan Gydgysylltu, Nyrsio Ardal, Therapïau a'r Timau Ymateb Acíwt.
Y Prosiect:
Digido'r ddogfennaeth a'r broses gyfredol ar gyfer codi pryderon i'r tîm Gofal yn y Cartref. Byddwn yn datblygu cymhwysiad symudol ar gyfer staff sy'n ymweld â chleifion, i gasglu gwybodaeth o ymweliadau, gan ddefnyddio fformat prosesau presennol ee Hanfodion Gofal a Chofnod Gofal. Bydd yr ap yn cysylltu â dangosfwrdd sy'n galluogi rheolwyr i gael mynediad o bell i'r logiau ymweliadau hyn a thros amser yn dechrau gwerthuso tueddiadau a meysydd i'w gwella.
Ymagwedd:
Mae Haelu yn ymdrin â datblygu cynnyrch ac wedi gweithio gyda’r tîm Gofal yn y Cartref i gyd-ddylunio’r ap. Mae’r cynllun peilot wedi’i drefnu ar gyfer mis Gorffennaf 2023, a fydd yn para am 3 mis, gyda gwerthusiad wedi’i gefnogi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac yn dilyn hyn byddwn wedyn yn ehangu i ranbarthau eraill Hywel Dda.
Manteision a Ragwelir:
Cleifion
- Cynyddu’r amser ar gyfer gofal uniongyrchol a darparu gofal sy’n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn, trwy wella mynediad at ddata
Gweithwyr Cynnal Gofal Iechyd
- Adnabod a chyfleu anghenion cleifion yn gyflymach gan ddefnyddio nodiadau digidol ac awgrymiadau
Timau rheoli yn y Ganolfan Gofal yn y Cartref neu'r Ganolfan Gydgysylltu
- Mynediad o bell at wybodaeth cleifion i reoli risg wrth aros am atgyfeiriad a monitro gwelliannau ar ôl ymyrraeth
- Darparu’r data/gwybodaeth sydd ei hangen ar gydlynwyr i frysbennu i’r person cywir ar yr adeg gywir a nodiadau gwell i’r rhai sy’n derbyn atgyfeiriadau
Staff gweithredol yn BIPHD
- Gofal mwy rhagweithiol sy'n lleihau'r adnoddau sy'n cael eu gwario ar wasanaethau brys