Skip i'r prif gynnwys
Prosiect Carfan 8 Enghreifftiol Bevan

Gofal Iechyd Darbodus ac Arweinyddiaeth Tosturiol

Sarah Wright ac Anjana Kaur

Llywodraeth Cymru/AaGIC

Gall y pwysau cynyddol ar Staff y GIG a darparu gwasanaethau wneud i egwyddorion gofal iechyd darbodus ac arweinyddiaeth dosturiol deimlo’n uchelgeisiol a bron yn rhy anodd i’w cyflawni. Fodd bynnag, mae'r angen am arferion gofal iechyd cynaliadwy yn bwysicach nag erioed o'r blaen.

Mae'r prosiect hwn yn dechrau sgwrs angenrheidiol ynghylch sut y gall arferion gofal iechyd darbodus gael eu cymhwyso gan weithlu blinedig i wasanaeth GIG sydd dan ormod o bwysau. Mae angen i egwyddorion cydgynhyrchu gyda chleifion, gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau a gwneud llai pan fo’n bosibl atseinio gyda Staff y GIG. Felly mae'n rhaid i arferion arwain tosturiol fod ochr yn ochr â'r drafodaeth hon.

Mae’r gwaith hwn yn ein hannog i “ddarllen yr ystafell” ac edrych ar sut y gallwn ddarparu arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn gyson wrth fynd i’r afael ag anghenion ein gweithlu. Drwy gyflawni hyn efallai y byddwn yn cynnal y gwasanaeth iechyd ac adnoddau cyfyngedig y GIG.

Mae'r prosiect yn cynnwys datblygu cyfres o gyfathrebiadau sy'n archwilio sut y gellir cefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (HCPs) i gyflwyno egwyddorion gofal iechyd darbodus i'w hymarfer clinigol dyddiol ochr yn ochr ag arweinyddiaeth dosturiol. Bydd Uwch Arweinwyr o fewn Llywodraeth Cymru ac Addysg Gwella Iechyd Cymru yn ymuno â Staff Clinigol rheng flaen y GIG, Cleifion, Aelodau o’r Cyhoedd a Rheolwyr y GIG i drafod egwyddorion gofal iechyd darbodus yn y byd go iawn.

Bydd y pynciau’n cynnwys “Sut i greu llai o alw?”, “Ymreolaeth claf yn ystod adferiad systemau yn dilyn Pandemig COVID-19” a “Gwneud penderfyniadau clinigol pan fo systemau dan straen”. Ffocws pob trafodaeth fydd senario bywyd penodol a real hy Claf yn aros yn yr ysbyty am archwiliad cardiaidd dros y penwythnos pan nad oes gwasanaeth y tu allan i oriau ar gael.

Mae’r sgwrs hon yn ddull darlun mawr ac yn ei hanfod mae’n hyrwyddo newid ymddygiadol a gwybyddol i’r ffordd yr ydym yn ymdrin â phroblemau GIG bob dydd yn adeiladol, gan ddarparu llwyfan ar gyfer gwaith pellach.

Clywch fwy am y gwaith yn y fideo isod: