Lee McAlea, Steph Taylor a Gareth Lloyd
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Daeth y prosiect Enghreifftiol Bevan hwn â'r Adrannau Cyllid a Fflyd ynghyd, i nodi arbedion cost a gwelliannau effeithlonrwydd yn ymwneud â Diffibrilwyr Corpuls³ yr Ymddiriedolaeth.
Yn 2018, cydweithiodd Cyllid a Fflyd ar weithrediad llwyddiannus System Rheoli Fflyd Chevin Fleetwave newydd. Dyfarnwyd Gwobr Rhagoriaeth mewn Cyllid a Gwella Perfformiad i'r tîm yng Nghynhadledd Flynyddol HFMA ac ACCA Cymru am y gwaith hwn.
Er mwyn manteisio i'r eithaf ar y llwyddiant hwn, roedd y tîm am ddefnyddio galluoedd y system i fynd i'r afael â'r costau uchel sy'n gysylltiedig â gwasanaethu ac ailosod rhannau traul ar gyfer diffibrilwyr Corpuls³ ar fwrdd holl gerbydau Ymateb Brys yr Ymddiriedolaeth.
Nodau:
Prif nod y prosiect oedd gwireddu arbedion cost ac effeithlonrwydd trwy gydgynhyrchu. Mae’r prosiect yn cyd-fynd ag egwyddorion gofal iechyd darbodus yn y ffyrdd canlynol:
- Gwella diogelwch cleifion trwy sicrhau bod pob diffibriliwr Corpuls³ yn cael ei wasanaethu ar amser, a'i fod yn cydymffurfio â'r amserlenni gwasanaeth a argymhellir.
- Lleihau costau gwasanaeth a rhannau traul.
- Gwella effeithlonrwydd trwy ymgorffori'r amserlenni gwasanaeth o fewn system Chevin Fleetwave, a gweithredu dangosfwrdd adrodd newydd a DPA.
- Nodi arbedion cost ac effeithlonrwydd yn y dyfodol.
- Cydymffurfio â Pholisi Dim GP Dim Tâl Cymru Gyfan.
Heriau:
Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi bod yn her sylweddol gan fod y prosiect wedi golygu gwneud newidiadau i nifer o arferion mewnol sydd wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn.
Mae wedi bod yn hanfodol gwrando ar safbwyntiau ein gilydd a dysgu o hyn, gan y bydd cydweithio yn ganolog i lwyddiant parhaus y prosiect.
Mae lleoli ac olrhain y diffibrilwyr wedi bod yn her fawr oherwydd natur y Gwasanaeth Ambiwlans gan olygu bod offer yn cael ei drosglwyddo fel mater o drefn o un cerbyd i'r llall.
canlyniadau:
Cyflwyniad llwyddiannus i CThEM i adolygu'r driniaeth TAW ar rannau traul cyfnewid, gan arwain at adennill £40,000 wedi'i ôl-ddyddio, a fydd yn arbediad cylchol i'r Ymddiriedolaeth wrth symud ymlaen.
Mae’r holl ddiffibrilwyr Corpuls³ ar gyfer ardal Bwrdd Iechyd Powys bellach yn cael eu cofnodi o fewn system Chevin Fleetwave ynghyd â’u hamserlenni gwasanaethu a’u DPA, sy’n ein galluogi i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion gwasanaeth a gwella diogelwch cleifion drwy leihau’r risg y bydd diffibriliwr yn methu yn ystod galwad sy’n bygwth bywyd. .
Rydym hefyd wedi nodi arbedion cost yn y dyfodol a fydd yn cael eu cario ymlaen, gan nad yw'r rhain wedi'u gwireddu eto oherwydd cyfyngiadau amser a phroblemau o ran ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Camau nesaf:
Mae'r amserlenni gwasanaeth cyfrifiadurol yn cael eu treialu ar hyn o bryd yn ardal Bwrdd Iechyd Powys; y cam nesaf yw cyflwyno hyn ar draws yr Ymddiriedolaeth.
Mae Adnabod Amledd Radio (RFID) bellach yn cael ei archwilio gan yr Ymddiriedolaeth a fydd yn datrys y mater o olrhain y diffibrilwyr.
Yn flaenorol, aethom i ddigwyddiad y Cenhedloedd Celtaidd, gyda chynrychiolwyr o Iwerddon, yr Alban a Chymru, lle buom yn arddangos ein prosiect. Byddwn nawr yn diweddaru'r aelodau ac yn eu cynorthwyo i argymell gwelliannau i'r gwasanaeth yn y maes hwn.
Gwireddu arbedion cost pellach a nodwyd trwy'r prosiect trwy ail-negodi ffioedd costau gwasanaeth gyda'n rhanddeiliaid a phrynu rhannau traul nad ydynt bellach yn cael eu cyfyngu gan batentau.