Sian Crinson
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Nod y cynnig datblygu gwasanaeth hwn yw mynd i'r afael â'r annhegwch ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o ran darparu a rheoli cleifion sy'n cael diagnosis o osteoarthritis y pen-glin unadranol. Ei nod yw symleiddio arferion rheoli presennol er mwyn gwneud gwell defnydd o adnoddau. Hyd yn hyn, nid oes llwybr diffiniedig yn ei le i reoli'r grŵp hwn o gleifion yn BIPBC. Mae'n bwysig defnyddio adnoddau'n briodol a dim ond cyfeirio'r cleifion hynny sy'n darged llawfeddygol at ofal Orthopedig. Mae arfer presennol yn golygu bod nifer o gleifion yn gorfod aros yn hir i gael eu hadolygu gan Ymgynghorydd Orthopedig i benderfynu a ydynt yn darged llawfeddygol, neu a fyddai'n well eu rheoli gyda brês pen-glin dadlwytho. Ar gyfer y cleifion hynny a fyddai’n cael eu rheoli’n well mewn brace, gellid gwneud y penderfyniad hwn yn llawer cynt yn y llwybr rheoli ac osgoi’r costau cysylltiedig o gael eu hadolygu’n ddiangen mewn Orthopaedeg pan ellid eu rheoli’n fwy effeithlon yn y Gwasanaeth Asesu a Thriniaeth Cyhyrysgerbydol Clinigol. (CMATS).
Bydd y prosiect hwn yn creu llwybr rheoli i gleifion sy'n cyflwyno osteoarthritis pen-glin un adrannol wedi'i gadarnhau'n radiolegol, sy'n cynnwys gwneud penderfyniadau clinigol cynharach ynghylch atgyfeirio priodol ac amserol ar gyfer ymyrraeth Orthopedig a defnyddio brace pen-glin dadlwytho.
Dros y 12 mis nesaf, bydd y prosiect yn cael ei gyflawni fesul cam fel a ganlyn:
Chwarter 1
Casglu data am y llwybr presennol.
Darparu hyfforddiant ar gyfer gosod braces dadlwytho i glinigwyr CMATS.
Chwarter 2
Sefydlu cyfarfod tîm amlddisgyblaethol misol gydag Ymgynghorwyr Orthopedig sy'n arbenigo mewn patholegau cymalau pen-glin a chlinigwyr CMATS.
Cychwyn peilot – trosglwyddo gosod braces i glinigwyr CMATS (o fewn Orthopaedeg).
Chwarter 3
Casglu data o'r cynllun peilot a pharatoi achos busnes.
Chwarter 4
Cyflwyno achos busnes i'r tîm Rheoli a throsglwyddo'r gwasanaeth i CMATS.
Mae manteision disgwyliedig y prosiect yn cynnwys:
- Gwell mynediad mwy amserol at gyngor arbenigol a chymhwyso brace dadlwytho.
- Lleihad mewn atgyfeiriadau amhriodol ac amser aros i weld y tîm Orthopedig.
- Gwell canlyniadau a boddhad cleifion.
- Gwella sgiliau Ffisiotherapyddion.